Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION. MAE amryw byd o lyfrau pwysig a dyddorol ynglýn â Chymru a'i bywyd wedi eu cyhoeddi ar ddecbreu'r ganrif hon. Nid oes gennyf le ond i'w henwau, a rhyw air neu ddau am bob un. Celtic Folklore. Gan y Prifathraw John Ehys. Cyhoeddir y ddwy gyfrol werthfawr hyn, ffrwyth llafur a meddwl blynyddoedd, gan y Clarendon Press, Ehydychen. Y maent yn gasgliad o len goreu Cymru, gydag esboniadau dyddorol ar yr hen goelion difyr. Myfyrion. Cyfrol o erthyglau, pregethau, a chaniadau o waith Iolo Caernarfon. Y mae yma ymborth iachus cryfhaol i'r meddwl. Y peth goreu fedr gŵr ieuanc wneyd ydyw ceisio dilyn meddwl awdwr y llyfr hwn. Cyhoeddir ef gan W. G-wenlyn Evans, Caernarfon (2/6). Welsh Poets of To-day and Yesterday. Cyfieithiadau gan y Parch. Edmund 0. Jones o Islwyn, Ieuan Glan Geirionnydd, Glasynys, Talhaiarn, Glan Padarn, ac Elfed. Y mae Ficer Llanidloes wedi gwneyd gwasanaeth campus trwy roddi llenyddiaeth Cymru mewn diwyg Seisnig mor feistrolgar. Ymysg y darnau cyfìeithiedig y mae " Gyrrwch wyntoedd" a'r " Nos." Y mae i'w gael oddiwrth yr awdwr (1/-). Teulu'r Bwthyn. Gan E. E. Evans. Os ydych am ystori ddifyr ac adeiladol, dyma i chwi lyfr wrth eich bodd. Disgwyliwn am ystoriau tebyg gan yr awdwr eto. Ceir oddiwrth H. Evans, 444, Stanley Eoad, Liverpool (1/-). Hanes Cymru. Cyf. I. Hyd 1063. Y mae ail argraffìad yn awr yn barod. Caernarfon, Swyddfa'r Wasg Gymreig (1/6). Adgofion am Peter Williams, Gwalchmai. Ehagymadrodd gan y Parch. T. Charles Williams, M.A. Llyfr o adgofìon gan amryw am gymeriad hoffus a difyr iawn. Swyddfa'r Wasg Genedlaethol, Caernarfon. Cymru. Yn rhifyn Chwefrol ceir erthyglau a darluniau,—Hanes Cymru, Glasynys yn Llanfachreth, Y Sipiwn Cymreig, Mordaith Meddyg i'r ìndia, Dr. Zimmer, Ynys Hilbri, Dathla Gwyl Dewi yn Abertonnau, Hen Ysgolfeistri Aberystwyth, Gronynnau'r Mynydd, Dyddiau Ionawr (darluniadau dyddorol gan E. Morgan), &c. Y mae llawer o ganeuon swynol iawn yn y rhifyn. Y mae cylchrediad Cymru wedi ychwanegu llawer eleni. (Chwecheiniog y mis.) Young Wales. Cyhoeddir y misolyn Seisnig cenedlgarol hwn yn awr gan y Mri. Hugbes, Gwrecsam. Y mae ei erthyglau yn ddyddorol iawn. Derbyniais hefyd y Drysorfa, Trysorfa'r Tlant, y Tyst Dirwestol, y Cyfaill, y Cambrian, y Lampt y Cerddor, y Cyfaill. Bydd gair o adolygiad ar yr oll yn Oymru.