Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. RA dyddorol yw gweled fod plant Cymru, fwyfwy o liyd, yn mynnu lle i'r iaitli Gymraeg. Eleni ceíais laweroedd o gardiau Nadoh'g a dechreu blwyddyn, bron oll yn Gymraeg. Gwelais eu hanfon i gyfeillion Seisnig hefyd, ac yr oeddynt yn falcb iawn o bethau mor newydd, ac esbonient i'w cyfeillion hwythau mai rhyw adnod yn Gymraeg, neu ryw bennill o waith un o feirdd mawr Cymru, neu ryw ddiareb o ddoethineb y Cymry, fyddai ar y garden honno. Y mae arlunyddes Gymreig, sydd yn dechreu tynnu sylw yn Lloegr, yn rhoddi ei dawn, y dyddiau iyn, at arlunio meddwl diddan digrif hen hwian- gerddi Cymru. Ceir hanes y llyfr a'r darluniau cyn hir. Y mae fìcer Llanidloes yn paratoi llyfr arall o gyf- ieithiadau o waith ein beirdd diweddar i'r Saesneg. Nis gwn am ddim wna cystal i roi syniad i estron beth ydyw ein barddoniaeth. Yr wyf yn ddiolchgar iawn i athrawon am alw pylw plant yr ysgolion yng Nghymru at Gymru'r Plant. Da gennyf ddeall ei fod, yn yr ardaloedd sydd yn ei groesawu, yn helpu i wneyd darllen a dysgu yn ddyddorol i blant. Dyna un o'i brif amcanion; a gwneir pob ymdrech, trwy ddarlun a chân ac ystori, i wneyd i blant ddysgu ohonynt eu hunain. Yn rhifyn Ionawr o'r öymru, y mae darluniau amryw o awduresau Cymru,— y ddiwedäar Mrs. Peters y Bala (gwraig Ioan Pedr), Buddug (awdures " O na byddai'n haf o hyd"), Cranogwen (awdures y " Fodrwy Briodasol," un y mae ei henw ar bob aelwyd), Ceridwen Peris (golygyddes y Gymraes ac awdures "Llygad dydd wrth ddrws y nef"), a dwy y gŵyr fy narllenwyr jn dda am danynt,—Winnie Parry ac Eluned Morgan. Y mae J. Lumley Davies, G.T.S.C, wedi cyhoeddi rhangan darawiadol,— "Nefol Dad, dy fendith rasol." Gellir ei chael o Ledrod oddiwrth yr awdwr am lig. D. Y mae'r ystori yn rhy adnabyddus i'w chyhoeddi. Gwelais hi mewn pedwar o gylchgronau o leiaf, clywais hi o wyth o bulpudau. Ab yr Eos. Y mae'r gân yn rhy henaidd i blant. Cân fer, eglur, gyda meddwl a miwsig ynddi, a hoffwn gael. L. J. E. Rhoddir lle i ddarluniau ar yr un amod yn union ag y rhoddir lle i gân neu ystori,—os byddant yn ddigon tarawiadol a thlws. S. Harri VII, Harri VIII, Edward VI, Mary, ac Elizabeth yw y Cyrory wisgodd goron Lloegr. Gwnawd llawer o gam â choffadwriaeth Mary, oherwydd erlid y Protestaniaid yn ystod ei theyrnasiad hi.