Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. I. RHAGFYR, 1892. Rhif. 12. HANES CYMRU XII. AI GWR DUW? WELSOM fod yr efengyl wedi cyrraedd myn- yddoedd Cymru a glan eithaf yr hen fyd, a fod holl drigolion yr ymherodraeth fawr Rufeinig yn galw eu hunain ar enw Crist. Ond torrodd llanw o genhedloedd paganaidd dros furiau'r gogledd, gan ymgartrefu mewn llawer o'r gwledydd Rhufeinig. Daeth Uwythau un o'r cenhedloedd paganaidd hyn i'n hynys ni, meddiannwyd dwyrain yr ynys gan y Saeson a'r Eingl, a gwahanwyd Crist- ionogion Cymru oddiwrth eu brodyr ar y cyfandir. Am gan mlynedd bu Eglwys y Cymry ac Eglwys Rhufen ar wahau. Dywedir ystori am un o Babau Rhufen. Cyn ei wneyd yn Bab yr oedd yn cerdded ryw ddiwrnod trwy heolydd y ddinas, ac ymysg pethau ereill ar werth yr oedd plant bach o Loegr. Caeth- ion oedd y plant, gyda Uygaid gleision a gwallt melyn. " Beth yw y rhai hyn ?" ebe'r mynach. " Eingl, o Loegr " oedd yr ateb. " Engyl yn hytrach" ebe yntau, gan ychwanegu,—" Beth yw enw eu brenin?" "Aella" ebe'r marsiandwyr. " Haleliwia," ebe'r mynach, " caiff glywed y newyddion da o lawenydd mawr.1' A phan ddaeth yn Bab, rhoddodd ei fryd ar anfon yr efengyl i'r ynys bell. Ym mis Gorffennaf, 596, wele fynach o'r enw Awstin yn cychwyn o Rufen tua Lloegr; ac yn 597 glaniodd ar draeth Caint, a deugain o Gristionogion o'r cyfandir gydag ef. Yr oedd ganddynt groes arian a darlun o Iesu Grist. Dechreuasant bregethu, gwelsant hen eglwysi y Cristionogion cynt, a chyn hir bedyddiasant frenin Caint, y brenin mwyaf grymus yn Lloegr yr adeg honno.