Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

titẅfflft H&tíû ::mm Cyf. I. HYDEEF, 1892. Ehif. 10 HANES CYMRU X. Y GEEFYDD NEWYDD. R fod crefydd Crist yn hen yng Nghymra bellach, bu yn grefydd newycíd, fel y mae'n grefydd newydd i ynyswyr Madagascar neu drigolion Bryniau Casia heddyw. Yr wyf wedi dweyd wrthych yn barod na ŵyr neb mewn gwirionedd, pwy bregethodd Grist gyntaf yn ein hynys ni. Ond y mae llawer o ddychmygu wedi bod pa fodd y daeth yr hanes am yr Iesu yma gyntaf. Ac mi a ddywedaf i chwi beth ydyw'r gwahanol farnau. Os trowch i ail lythyr Paul at Timotheus,. y bedwaredd bennod, a'r unfed adnod ar hugain, cewch «nw Pudens, ac enw Claudia. Dywed bardd oedd yn byw yn yr oes honno fod Claudia'n wraig i Budens. A thybir fod darn o enw Pudens ar garreg gafwyd ym Mhryden, yn dweyd ei fod wedi rhoddi lle i deml ihyw eilun dduw. A thybir mai y rhain ddaeth a Christion- ogaeth i'n gwlad ni. Digon prin y gellir profi hynny, er fod y peth yn bosibl. Buasai'n ddechreu prydferth iawn i'n crefydd. Yr oedd Pudens yn dra chrefyddol cyn gadael ei wlad, yr oedd wedi gofalu am deml i'w eilun dduw; ond clywodd am Dduw gwell^ credodd ynddo, a daeth a'r hanes am dano i'w wlad ei hun. Clywsoch son am Garadog. Efe fu'n arwain y Prydeiniaid yn erbyn y Rhufeiniaid. Ac o'r diwedd cymerwyd ef yn garcharor, ac awd ag ef i Rufen,—lle y daeth torfeydd i weld y milwrdewr. Dywed rhai fod Bràn, tad Caradog, wedi myned i Rufen gydag ef, a'i fod wedi clywed am enw'r Iesu yno, ac iddo yntau ddweyd am dano wedi dod adre. A dywed rhai mai brenin arall, o'r enw Lleufer Mawr, ddaeth a'r efengyl gyntaf i'n hynys ni. Yn ol yr hanes, anfonodd hwn genhadon at y Pab yn y flwyddyn 144, i ofyn am rai i bregethu'r efengyl yn ei ynys. Ond y mae lle i ofni nad oes sail i'r stori hon ychwaith.