Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. I. MEDI, 1892. Ehif. 9. HANES CYMRU IX. YE HEN DDUWIAU. WY oedd duwiau'r hen Gymry, ac i ba le yr aethant ? Pan gredodd ein tadau nad oes ond un Duw, a hwnnw'n gwneyd trugaredd i fìloedd, i ba le yr aeth yr hen dduwiau, a'u hallor goch ? Yr oeddynt yn aros o hyd, ac y mae cof am danynt eto. Ond nid ar orsedd duwiau y cawsant aros, ond fel arwyr rhyw hen ystori neu fel ellyìlcn y gwyll. Am yr hen dduwiau hyn y byddai tadau'n dweyd ystraeon wrth eu plant, ond heb gredu mai duwiau oeddynt. dduwiau oedd Lludd. Duw masnach a llongau Y mae Un o'r hen oedd ef, a byddai ei deml ar lan afon neu wrth y môr. ei enw eto'n aros yn enw prif ddinas a phrif borthladd y wlad,— Caer Ludd. Byddai'r hen Gymry'n gweddio arno ef am aniddiffyn rhag y gelyn. Cai oedd duw'r tân, Beli Mawr oedd duw rhyfel, Dwynwen oedd duwies serch. Ceridwen oedd duwies doethineb,— yr oedd ganddi bair ar lan llyn Tegid, ac yn hwnnw byddai'n parotoi defnynnau doethineb; acos rhoddid y rhai hynny ar dalcen yr annoeth, ai'n ddoeth yn y fan. Duw rhyfedd iawn oedd Gwyd- ion ab Don, efe ddaeth a moch i Gymru, a dywedir y medrai ef wneyd enaid prydferth byw o flodau. Myrddin oedd duw gwybod- aeth ; a dywedir ei fod yn Ynys Enlli mewn carchar gwydr. Helen oedd duwies y ffyrdd; dywed pobl y wlad mai ei ffyrdd hi yw'r hen ffyrdd sydd hyd y mynyddoedd. Yr oedd llawer o dduwiau ereill yn yr hen Gymru, a rhai o honynt yn dirion a hoff o'r tlws a'r da; ond gwelodd y Cymry fod Iesu'n llawer gwell na hwy.