Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CF W.'tES, Col. .............._. Acc. N,.Mj2 <}tUW% ỲÌMt^::z„ Cyf. I. GOEFFENNAF, 1892. Ehif. 7. HARíES CYMRU. * ■ ÀTL. yb hen greiydd. E ydych yn tybio, ini wn, fod gan yr hen Gymry grefydd. Ac yr oedd ganddynt gref ydd, a - chref ydd ryfedd iawn. Nis gwn a oedd plant yn cael gweld eu tadau yn addoli. Os oeddynt, rhaid eu bod mewn braw ac ofn mawr. Ni ŵyr neb fawr am grefydd yr hen Gymry; pan oedd ein tadau wedi gadael y grefydd honno, nid o'u bodd y sonient am dani. " Gwell i ni," ebe hwy, " yw Crist." Ond y mae pobl ddieithr wedi cadw ar gof pa fodd yr oedd ein tadau yn addoli. Yr oedd ganddynt lawer o dduwiau. Mercher oedd enw un duw, efe oedd duw dysg a gwybod. Iachau oedd gwaith un o'r duwiau; Mawrth oedd enw duw rhyfel, a rhoddai'r milwyr ran o'r neilldu iddo, ar ol y frwydr. Ond Iau oedd duw eu duwiau. Yr oedd gan y duwiau demlau, ac offeiriaid. Ar y dechreu, hwyrach, nid oedd teml yng Nghymru ond y goedwig, ac nid oedd ddelw, nac offeiriad ond y penteulu. Pan ddaeth y Ehufeiniaid i'r ynys hon, yr oedd gan y Cymry, nid yn unig dduwiau, ond temlau a delwau ac offeiriaid. Derwyddon y gelwir yr offeiriaid hynny. Eyw dro daeth byddin y Ehufeiniaid i ynys Mon. Ynys Mon oedd cartref y derwyddon ; ac yr oedd y Ehufeiniaid yn meddwl^