Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

|NAT!CNAlU»n« Sh. Ns. <tnwt pi&fí«-=z: Cyt. I. MEHEFIN, 1892. Rhif. 6. HANES CYMRU. VI. PLANT HEN GYMRTJ. R wyf yn dweyd hanes hen iawn wrthych, onid ydwyf? Yr wyf yn adrodd hanes Cymru fil a dau gant o flynyddoedd yn ol. A oedd plant yng Nghymru yr adeg honno ? Oedd ; ac yr oedd gofal eu tad a'u mam yn gymaint am danynt, yn wir, a gofal eich tad a'ch mam am danoch chwi. Ond yr oedd mwy o blant bach amddifaid yr adeg honno; oherwydd collai eu tadau eu bywyd, yn y frwydr neu wrth hela. Ac yr oedd brwydro o hyd yn y dyddiau hynny. Yr oedd plant bach Cymru yn 613 mor gryf a chwithau^ ac mor hardd. Nid oedd ganddynt gystal dillad ; nid-wyf yn siwr a olchent eu gwyneb bob dydd. Yr oeddynt yn hoff o chwareu, __yr oedd ganddynt bel a bwa a saeth. A hwyrach y byddai ambell un yn rhoi ei fysedd ar.garn cleddyf ei dad, ac yn taro tannau telyn y bardd. Ni fedrent gyfrif fawr, ac ni fedrent ddarllen dim, na thorri eu henwau, na thynnu llun. Ond yr oedd- ynt yn adnabod llais pob aderyn, gwyddent enw pob blodeuyn, yi- oeddynt yn hoff o'u gilydd, ac yr oeddynt wedi dysgu dweyd y gwir. Nid oedd cartref y Cymry bach yn 613 yr un fath yn union a'ch caitref chwi. Nid oedd gan y ty gorn simddeu,—dyna un gwahaniaeth. • Yr oedd y tân ar lawr, ac ar ganol llawr y ty,— dyna wahaniaeth arall.