Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

#ŸtíftP'ft W&fttìr^ iSh.Ho.......— I £fiáL Cyf. I. MAI, 1892. Ehif. *o~ HANES OYMHÜ. IV. BRWYDR CAER. JN y bennod ddiweddaf dywedais hanes Arthur a hanes Maelgwn Gwynedd. Eu gwaith hwy oedd ceisio cadw i'r Cymry lawer ardal sydd ym meddiant y Saeson erbyn hyn,—megis Gwlad yr Haf (Somerset), Cernyw a Dyfneint . (Cornwall and Devon), Teyrnllwg (Lancashire), Ystrad Clwyd (Strath Clyde), a llawer bro arall. Nid wyf am ddweyd hanes y brwydro'n fanwl wrthych ; ni ddywedaf ond hyn,—coll- asom ni ein gwlad i gyd erbyn 650, ond y Gymru feddwn yn awr. Beth ddaeth o'r Cymry oedd yn byw yn, yr ardaloedd orchfygwyd gan y Saeson ? Ajos a wnaethant yn eü hen gartrefi, a thalu treth. Bob yn dipyn collasant eu Cymraeg ; ^phrin y mae eu plant yn gwybod heddy w mai Cymry ydynt. Yr oedd Cymraeg yn cael ei siarad yn Scotland wedi 1200 ; yr oedd Cymraeg yn cael ei siarad yng Nghernyw wedi 1750. Dywedir nad ydyw mynyddwyr Cumberland wedi anghofio eu Cymraeg eto. Yr oedd cyfailì i mi niewn coleg yn Lloegr yn ddiweddar; a chydag ef yr oedd Sais o dir y gogledd, tir fu'n dir i'r Cymry gynt. Ryw noson dywedodd y Sais wrth y Cymro fod ei fam wedi dysgu rhigwm iddo, rhigwm oedd ei nain wedi ddysgu iddi hithau. " Wn i ar y ddaear beth ydyw," meddai, " ond dyma fel y mae,— Un, dau, tri, pedwar, pump, Chwech, saith, wyth, naw, deg.