Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<)tMWtí Cyf. I. EBEILL, 1892. Rhif. 4. HANES CYMRU. IV. ARTHUR FAWR. " Brenin fu, bienin fydd." AN aeth y Rhuf einiaid ymaith, yr oedd Pryden yn ddwy dalaeth,—talaeth y mynyddoedd yn y gorllewin, a thalaeth y gwastadedd yn y dwyrain. Daeth yr Eingl a'r Saeson dros dalaeth y dwyrain, ac yna ymosodasant ar dalaeth y gorllewin. Rhan o dalaeth y gorllewin oedd ein Cymru ni, ond yr oedd y dalaeth yn cynnwys mwy na Chymru; yr oedd yn ymestyn o enau'r Hafren at yr afonydd Forth a'r Clyde ; afonydd yn y wlad elwir yn Scotland yn awr. Bu pobl y dalaeth hon yn ymladd yn hir, i gadw eu gwlad rhag y gelynion oedd yn ymosod arni o bob tu. Galwasant eu hunain yn Gymry, sef pobl yn byw yn yr un fro. Yr oedd eu gelynion yn aml, deuent o'r gogledd ac o'r dwyrain ac o'r gorllewin,—o'r môr ac o'r mynyddoedd. O fynyddoedd yr Alban doi'r Pictiaid i ymosod arnynt. Yr oedd y íthufeiniaid wedi codi dau fur ar draws yr ynys, i iwystro'r Pictiaid i'r dalaeth, a byddai lleng o filwyr yn cerdded hyd ben y mur. Dywedir y byddai'r Pictiaid weithiau'n rhoddi tân wrth adenydd adar gwylltion, ac yn eu hanfon dros y mur i feusydd addfed y Cymry. Dro arall medrent ddringo dros y mur eu hunain; a cherädent tua'r de, gan ladd a dínistrio bob cam o'r ffordd.