Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'-........_........ Cyf. I. MAWBTH, 11892. Ehif. 3. HANES CYMRU. III. Y SAÎSSON. jRAWdros y mor, tua'r dwyrain, y mae traeth isel cyfandir E w r o b. Gwlad wastad ydyw'r wlad agosaf at y môr, mor was- tad nes y doi'r môr dros lawer o honi onibai am y clodd- iau mawr sydd yn ei atal. Trwyddi rhed af onydd mawr yn araf,—y Rhein a'r Scheldt a'r Elb. Erbyn hyn y mae'r Is-ellmyn diwyd a'r Belgiaid prysur wedi sychu'r tir, wedi codi clawdd yn erbyn y môr, ac wedi adeiladu dinasoedd prydferth. Ond, tua'r flwyddyn 450, ni welid ond dwfr a chors ac ambell dwmpath grugog sych. A deuai'r môr dros y tir weittíaü, prin y medrai meiroh buain ddianc rhag vtonnau. Nid rhyfedd fod y bobl yn hiraethu am wlad well i fjw. . I'r de yr oedd ymherodraeth fawr Rhufen,—gwlad heulog, lawn o wenith a ffrwythau a chyfoeth. Ac i'r gorllewin, lle'r oedd yr haul yn machlud, yr oedd ynys yn y môr, ac yr oedd gair da iddi,—gwlad aur a mel, gwlad byw'n dledwydd a digon o fwyd.