Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

.'. ."! '%l Oyf. I. CHWEFEOE, 1892. Ehif. 2. HANES CYMRU. II. Y RHTTFEINIAID. " Gwnaethant y byd yn un, gwnaethant lwybrau i'r efengyl.' E ydym yn awr ar ddechreu'r flwyddyn 1892. Beth mae hynny'n feddwl? Y mae'n meddwl fod 1891 o flynyddoedd er pan anwyd Iesu Grist. Gadewch i ni roddi trem ar y byd fel yr oedd pan anwyd yr Iesu ym Methlehem. p]1 Nid oedd yr holl fyd wedi ei ddarganfod Ú yr adeg honno. Yr oedd coedwigoedd yng ngogledd Ewrob nad oedd neb wedi gwneyd llwybrtrwyddynt; yr oedd anialdiroedd eang tywodlyd yng nghanol Affrig nad oedd neb wedi eu croesi; ac nid oedd neb yn meddwl fod byd newydd yn y gorllewin, draw y tu hwnt i Bryden a'r môr. Pan anwyd Orist yr oedd ymherawdr Rhufen yn trethu'r holl fyd. Dinas ym mhenryn yr Eidal,—penryn ym Môr y Canoldir,—ydyw Rhufen; ac yr oedd y ddinas ryfedd hon wedi estyn ei therfynau dros yr holl fyd. Yr oedd wedi gwneyd ffyrdd i bob man, ac ar hyd y ffyrdd hyn teithiai'r llengoedd a'r masnachwyr i jyrraUieithaf yr ymherodraeth'fawr. Augustus oeidd ymherawdr Bhufen pan anwyd Iesu Grist. Yn y dwyrain eithaf yr oedd Canan, ac yn y gorllewin eithaf yr oedd Pryden. Yr oedd Canan wedi ei gorchfygu gan y Ehufein- iaid, ac wedi ei gosod dan dreth. Ond nid oedd Pryden wedi ei gorchfygu eto. Yr oedd Iwl Oesar wedi bod ynddi ddwywaith, ond nid oedd wedi ei hennill i Rufen. Gwelai y Ehufeinwyr ein hynys o'r cyfandir, ac yr oedd arnynt awydd am ei chael. Meddyliodd Augustus am ei gorchfygu, ond ni wnaeth.