Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

í . rv-3 FÉW'$ Ẅ$$f* Cyf. I. IONAWR, 1892. Rhif. 1. AT BLANT CYMRU. R wyf yn lioff o honoch, ac wedi pryderu llawer yn eich cylch. Yr wyf yn meddwl fy mod yn eich adwaen yn dda. Oni welais lawer o honoch, oni funa yn siarad a chwi ? Atnl dro bum yn dweyd hanesion wrthych ai' fìn nos; treuliais aml awr yn yr ysgol gyda chwi; ac aml dro bum yn son wrthych am yr Iesu. Yr oeddych yn ufudd, a ded- wydd, a llawen; ac ni fum innau erioed mor hapus a phan oeddych o'm hamgylch. Ond yn awr yr wyf ymhell oddiwrthych. Ac yr w}Tf yn meddwl am danocli o hyd. Y mae arnaf awydd eich dysgu, os ydych yn barod i wrando arnaf fcl cynt. Llawer o bethau sydd gennyf i'w dysgu i chwi, ac i'w dysgu fy hun wrth eu hadrodd i cliwi. Y mae arnaf eisieu dysgu Hanes Cymru i chwî, hanes eich gwlad chwi, a hanes eich tadau chwi eich hunain, —y tadau roddasant eu bywyd i lawr dros eich car'refì, y tadau fu'n Uafurio i gael Beibl i chwi, y tadau fu'n dioddef angen a sarhad wrth geisio cael moddion addysg i chwi. Wrth adrodd hanes eich gwlad, nid anghofiaf ddweyd beth a wnaeth plant dros Gymru. Dywedaf i chwi hefyd lianes gwledydd ereill,—gwledydd oerion y goglcdd, a'r gwledydd lle'r ymgyfyd y balmwydden yn y de; dyiîrynnoedd culion a gwastíideddau eang; gwlodydd mawrfel China a Rwsia a'r Almaen, a gwledydd bach i'cl Grueg a Chanan a Chymru. Yr wyf hefyd ameich trwytho ag ysbryd Llenyddiaeth Cymni. Ysbryd pur a iach ydyw hwnnw. Gwna chwi'n dtìa ac yn dyner, ac yn llawn o gydymdeimlad â phob peth pur a thlws; dengys i chwi bethau rhyfedcl ym mhrydferthw:h eich gwlad ac yng Ngair Duw; gwna eich meddwl yn gryf, a'ch llafar yn hyawdl. Fel j