Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYSTADLEÜAETH Y TRIOEDD NEWYDDION. ^V AETH 440 o atebion i law. Yr oedd yn gryn waith mynd trwyddynt i gyd, 1 | a chadw cyfrif ohonynt. Ond yr oedd yn waith difyr ryfeddol; ac yr 0J oedd arnaf awydd mawr dod i'r terfyn, i weled pa fardd a pha gân oedd 4r oreu gan blant Cymru. Tri bardd goreu Cymru. Y tri ydynt,—Islwyn, Eben Fardd, Ceiriog. Yr oedd Islwyn ymhell ar y blaen, ac Eben/dipyn o flaen Ceiriog. Yn agosaf atynt daw Williams Pant y Celyn a Goronwy'Owen aD. ab Gwilym. Yna daw Dewi Wyn, Hiraethog, a Glasynys. Ac yna daw Ieuan Glan Geirionnydd a llawer ereill. Tri hardd byw goreu Cymrtj. Tybia'r plant mai'r tri goreu yw Dyfed, Elfed, a Hwfa Mon. Y mae Dyfed yn gyntaf o ddigon. Yn agos iawn at y tri hyn daw Iolo Caernarfon, Pedrog, a Watcyn Wyn. Yna daw Tafolog, Cadfan, a Berw. Yna Ehys J. Huws, Ben Davies, a J. T. Job. Yna enwir lliaws mawr,—R. Bryan, Nathan Wyn, Elfyn, Gwilym Cowlyd, Eifion Wyn, Bryfdir, Gwylfa, Gwili, Meiriadog, Tryfanwy, J. M. Jones, Barlwydon, R. ap Hugh, Alafon, Anthropos, Beren, Ben Bowen,—digon i lenwi rhifyn cyfan. Tri fu farw'n ieuanc. Golyddan, leuan Gwynedd, a Ieuan Ddu enwir amlaf. Enwir hefyd Ann Griffiths, Telynog, R. Owen, Gwenffrwd, a thua deugain ereill. Tri fu byw'n hen. Enwir Gwalchmai, Clwydfardd, a Gwilym Hiraethog amlaf. Enwir hefyd R. ab Gwilym Ddu, Huw Morus, Edmund Prys, Twm o'r Nant, a thua hanner cant ereill. Y tair can oreu. " Bedd y Dyn Tylawd," " Beth sy'n hardd," a " Ti wyddost beth ddywed fy nghalon" ydyw'r tair. Yn agos iawn atynt daw " Ceisio Gloewach Nen," y "Cyfamod Disigl," a " Fy anwyl fam fy hunan." Enwir hefyd,—" Y Gwenith Gwyn," " Myfanwy Fychan," " Y Fodrwy Briod- asol" (Cranogwen), " Deio Bach," " Beth yw Siomiant," " Cathl yr Eos," " Pa wlad fel Cymru lân," " Gwraig y Pysgotwr," "O dowch a'r delyn yn ei hol," " Anwylyd Wlad," "Pia'r Beddau," "Dal i ganugyda'r awel," "Gymru anwyl, gwlad fy nhadau," " Rhagorfraint y Gweithiwr," " Hwiangeräd y Weddw," " Pan godù- Cymru'n ol," " Dweyd wrth Iesu," " Hapus Luddedig," a llawer ereill. Y Tri Llyfr Goreu. Y Beibl, y Gwyddoniadur, a Gwaith Islwyn ga fwyaf 0 enwau. Yna daw Bardd Cwsg, Taith y Pererin, Geiriadur Charles, Rhys Lewis, Canwyll y Cymry, Drych y Prif Oesoedd, y Mabinogion, Scc. Tair tref pwyaf Cymru,—Caerdydd, Abertawe, Casnewydd. Enwir hefyd Ystradyfodwg, Merthyr Tydfìl, Tredegar, Caerfyrddin, Llanelli, Gwrecsam, a lleoedd llai. Tair tree hynaf Cymru,—Caernarfon, Caerfyrddin, Caerlleon ar Wysg. Enwir Conwy, Caerlleon, Caerdydd, Tyddewi, Bangor, Beaumaris, Caerffili, Machynlleth, &c. Tairtref fwyaf darllengae,—Aberystwyth, Bangor, Caerdydd. Ynnesaf daw Ffestiniog, Abertawe, a Chasnewj'dd. Enwir Llanelli, Bethesda, Caergybi, &c. Cartref mwyaf o enwogion,—y Bala, Caerfyrddin, Caernarfon. Enwir Dinbych, Conwy, Llanrwst, Lerpwl, Porthmadog, Aberteifì, y Wyddgrug, &c. Y Tri Buddugol,—Luned Lewis, Dyffryn, Meirion; Annie M. Eyans, 143, Henry St., Tonypandy; Hugh Owen, 35, Allington St., St. Michael's, Lerpwl. Bydd gair eto mewn rhifyn dyfodol ar y gystadleuaeth dra dyddorol hon. Bydd rhai tebyg iddi eto yn y rhifynnau nesaf. Dengys ol chwilio a holi nid ychydig.