Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ^ f R ydych yn sylwi fy niod yn y gyfrol hon yn rhoddi pedair esiampl o ^J Gymraeg awduron mwyaf poblogaidd Cymru. I ddechreu rhoddais ^^^ bennod o'r Beibl, i ddangos arddull canrif y Diwygiad; yna daeth pennod o " Hanes y Ffydd" Charles Edwards, i ddangos arddull yr ail ganrif ar bymtheg; yn y rhifyn hwn, ceir pennod o " Ddrych y Prif Oesoedd," i ddangos arddull y ganrif ddiweddaf ; yn y rhifyn nesaf, daw pennod o " Dreflan " Daniel Owen, i ddangos arddull y ganrif hon. Gellir cael y rhan o " Hanes y Ffydd" sydd yn adrodd hanes Cymru am dair ceiniog oddiwrth Hughes a'i Fab, Gwrecsam; gellir cael y rhan hanesyddol o "Ddrych y Prif Oesoedd" o swyddfa Cymtu, Caernarfon. Yn rhifynnau'r flwyddyn nesaf rhoddir deuddeg dalen o ddeuddeg awdwr, o'r Mabinogion hyd ddiwedd y ganrif hon, ac erthyglau byrion eglur ar brif gyf- nodau ein Uenyddiaeth. Cynhwysa rhifyn Hydref o'r Tyst Dirwestol erthygl ddarllenadwy iawn ar y Parch. Samuel Owen, y dirwestwr pybyr o Danygrisiau. " Tanbeidrwydd a sirioldeb ac ysgafnder natur,"—dyna ddarluniad o Mr. Owen nas gellir ei well. Bob. Ni raid fod planedau pell yn oerach na'n planed ni. Dibynna eu gwres ar eu hawyrgylch. Ỳr awyr sydd yn cadw gwres yr haul o gylch ein daear ni. Uchàf yn y byd yr ewch, teneuaf oll yw'r awyr, ac am hynny y niae'r hin yn oerach. Mae'n oer ar ben mynyddoedd uchel bob amser. Dywed y Monthly Treasury mai Awst 7, 1830, oedd dydd geni y Parch. Josiah Thomas, M.A., Lerpwl, ac mai efe yw yr unig un yn fyw o frodyr y gŵyr Cymru yn dda am danynt,—Dr. Owen Thomas a Dr. John Thomas. " Clffyl haiarn," " deurod," a " deugylch," yw'r geiriau glywais i am bicycle. Nid oes gan yr olwynwyr hawl i alw ar i bawb symud oddiar eu ffordd, er fod rhai ohonynt yn tybio hynny. Hwy sydd i osgoi'r fforddolyn, nid y fforddolyn sydd i ddianc am ei fywyd wedi clywed tinc cloch yn ei ymyl. Yr wyf yn ddiolchgar i D. E. Pierce, 10 George St., Aberystwyth; ac i'n dosbarthwr ym Mostyn, am ddarluniau prydferth o'u hardaloedd. Cerflr hwy gynted y bydd cyfleustra iddynt ymddangos. Men. Gellwch gael Cymru'r Plant heb dorri ei ymylon, ond gofyn am dano i'ch dosbarthwr. Felly y mae goreu ei gael o lawer, yn enwedig os byddwch yn nieddwl ei rwymo wedyn. Y mae amryw ardaloedd yn parotoi at gael cangen o Urdd y Delyn. Daw enwau minteioedd newyddion yn y rhifynnau nesaf. Y mae cyfrol brydferth o waith Eobert Bryan,—" Odlau Cân,"—i'w chyhoeddi. Ei phris fydd 3/0. Anfoned tanysgrifwyr eu henwau i 0. M. Edwards, Lincoln •College, Oxford. Bydd y rhifyn nesaf yn rhifyn olaf y ganríf. Gwneir ymdrech i wneyd C\mrl'r Plant yn llawer gwell yn y ganrif newydd. Ceir manylion yn y ìhifyn nesaf.