Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. °í MAE y desgriflad o Jogonnath, yn y rhifyn hwn, wedi ei ysgrifennu gan lygad dyst o'r hyn a ddesgrifìa,—un o'r cenhadon Cyrareig ar wastad- eddau gogledd yr India. 0. Rhyfel cartrefol ym Mhrydain oedd y Rhyfel Mawr, rhwng y brenin Siarl I. a'r Senedd. Yn 1642 y dechreuodd. Edgehill, Marston Moor, a Xaseby oedd y prif frwydrau. Y Senedd orfu; ond yuirannodd yn ddwy blaid,— Presbyteriaid ac Anibynwyr,—a difawyd ei nerth. Methodd 01iver Cromwell gadw'r heddwch ; ac yn fuan wedi ei farw ef galwyd Siarl II., mab Siarl I., i'r orsedd. Ond, er adferu'r frenhiniaeth, graddol eniilodd y Senedd ei gallu. Mair. Y mae Iddewon eto yn gobeithio cael mynd yn ol i'w gwlad. Cyfarfu cynhadledd y " Seioniaid," fel y gelwir Iddewon sydd am fynd yn ol i Seion, yn Llundain yr haf hwn. Y Twrc Mahometanaidd ey'n meddu Seion heddyw, a deil ei afael arni tra medr. Y mae Rwsia am y wlad, oherwydd fod cymaint o bererinion Rwsiaidd yn mynd yno ; y mae Ffrainc am dani, oherwydd traddodiad a masnach; y mae'r Almaen am dani oherwydd fod cymaint o Almaenwyr yn byw ynddi; y mae Prydain am dani oherwydd ei bod ar y ffordd i'r India. Gall fod yn faes rhyfel y byd eto, fel y bu gynt. Ond y mae'n anhebyg iawn y gwelir brenin Iddewig yn Jerusalem byth. Geilw Hywel Cernyw fy sylw at wall yn y rhifyn diweddaf. Nid ym mynwent yr Eglwys "Wen y claddwyd Thomas Gee, ond ym mynwent newydd Dinbych. Wedi darllen am y bachgen bach gollwyd ar Fannau Brycheiniog, y mae amryw wedi gofyn am barhad o'r ystoriau "Ar Goll." Ni fedraf gael lle iddynt yn y gyfrol hon; ond meddyliaf am y peth wrth gynllunio rhifynnau y gyfrol nesaf. Ifan. Tybia'r ofergoelus fod cath ddu yn dod a lwc, ac nad a neb yn dlawd os bydd ganddo gath ddu. Bob. Y mae sulphur lawer mewn melyn wy. Hwnnw sy'n achosi arogl anymunol wy hen. Efe hefyd sy'n peri fod wy yn andwyo llwy arian. Llwy bren nea asgwrn yw'r oreu i fwyta wy. Y MAE'r drydedd gyfrol o Glasuron Cymru wedi ei chyhoeddi. " Bywyd Ieuan Gwynedd " yw ei theitl. Rhoddir prif weithiau Ieuan Gwynedd, a detholiad o'i waith llai adnabyddus, i egluro gwaith ei fywyd. Y mae yn y gyfrol aml gân «wynol, megis " Bythod Cymru " a " Beth yw Siomiant." Y mae ynddi aml ddarn o erthyglau, o bregethau, ac o ddyddlyfrau Ieuan a ennyn uchelgais pob Cymro yn enwedig. Y mae ynddi y desgrifìad hynod o fam ac o gartref mebyd Ieuan Gwynedd ; darlnn yw hwn, mi gredaf, nad anghofir mohono gan ein plant. Pris y gyfrol yw chwecheinig mewn amlen, swllt mewn llian. Gellir ei chael heb dorri ei dalennau os mynnir; ac yn y dull hwnnw, i'm tyb i, y mae brydferthaf. 0 Swyddfa Cymru, Caernarfon, y mae i'w chael.