Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. yMAE amryw pyfrau pwrpasol wedi cyrraedd. Oddiwrth y Mri. Hughes daeth " Oriau Hamdden," llyfr bychan chwe cheiniog deniadol ar lyfrau gan Anthropos; a " Gorchestion Gwilym Bevan," ystori deim- ladwy am fywyd y gweithiwr, gan T. Gwynn-Jones, a darluniau gan J. R. Lloyd-Hughes. Oddiwrth Mr. D. Jentöns daeth cantawd,— "Plant y Nefoedd,"—ar eiriau Dyfed gan Mr. Dan Protheroe. Anfonodd F. Jaffrennou ei " Delen Dir," cyfrol ddestlus o farddoniaeth Lydawaidd, a darluniau gan yr aiiunydd ieuanc gobeithiol Cymreig Pwyntil Meirion. Llyfr mwy na'r rhain yw " Cofiant a Phregethau Caleb Morris," gan yr athraw D. Tyssil Evans. Bydd adolygiad ar y rhain ac ereill, ac ar gylchgronau, yn rhifyn Cymru y mis hwn. Yn rhifyn Cymru am y mis diweddaf y mae R. Morgan yn dweyd hanes yr aderyn i^enfelyn, lili'r dyffrynnoedd, a chloch yr eos. Y mae'r Parch. D. Lewis, Llanelli, yn darluuio pregethwyr enwog a glywodd, a Thegwyn yn adrodd am ganmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig. Y mae ynddo hanes siwrne i'r eira tra- gwyddol, hanes Cymry dyddorol ac euwog, caneuon byrion, a gwybodaeth lawer sydd wrth fodd hanesydd. a hynafìeithydd Cymreig. Cymerir trafferth mawr, hefyd, gyda'i ddarluniau. Nid oes gennyf fawr ddim i'w ddweyd am hanes y byd. Amser rhyfedd, tywyll ydyw. Ni ŵyr neb beth sydd ar drothwy y ganrif newydd. Dioddefìadau milwyr Prydain yn Ne Affrig, bradlofruddio brenin yr Eidal, ac yn enwedig y pryder ynghylch y llysgenhadwyr yn Pekin, ac yughylch dyfodol China,—y mae y rhain, beth bynnag, i aros yng nghof y byd niewn hanes. Canrif lawn fu hon,—ni fu angenrheidiau bywyd, yn fwyd ac yn ddillad ac yn danwydd, erioed mor rad. Ond y mae y rhyfel yn gyrru prisiau i fyny ar garlam. Owareder ni rbag rhyfel eto yn China; onide bydd y tylawd yn ein mysg yn teimlo mm y dioddef yn y gauaf sy'n dod. Derbyniais amry^y ddarluniau, ystoriau, a phenhillion. Ymysg y plant, daw darluniau o rai o blant Amerig cyn hir. Ya wyf yn ddiolchgar iawn i'ni darllenwyr am photografüau o ambell lecyn tlws neu hanesiol, ac ychydig o hanes y fan. Mynyddoedd a rhaiadrau ac afonydd, eglwysi a chapelau, ystrydoedd ein hen drefydd, ambell gartref o balasdy neu fwthyn, maes brwydr neu faes cymanfa, plant neu deganau, cwn neu gathod neu gywion ieir,—y mae digon o bethau dyddorol i dynnu eu lluniau. Dyma englyn Islwyn i'r nos a'r blodau,— " A dŵr Nef dioda'r Nos Fil o dyner flodionos; Yrna'n ŵyl oll dan len,—ant i huno, Mwy, i freuddwydio am froydd Eden." Ya wyf yn cadw nifer o enwau Urdd y Delyn tan y rhifyn nesaf. Cewch ■enwau, y ddau fuddugwr, sydd a'u darluniau yn y rhifyn hwn, y tro nesaf. Bydd Ùyfr bychan arall yn barod i'r Urdd cyn y gauaf.