Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. YN ddiweddar daeth llyfr cyntaf Livingstone, y " Missionary Travels in South Africa," i'm meddiant. Ar y dechreu y mae ychydig eiriau wedi eu hysgrifennu gan Dr. Livingstone â'i law ei hun. Y mae'n bur ddyddorol yn y dyddiau hyn, pan gofiwn fod rhyfel yn anrheithio'r dyffrynnoedd a'r bryniau y bu Livingstone yn crwydro yn heddychlon ar hyd-ddynt. Yr wyf yn rhoddi crynhoad o hanes ei febyd, yn ei eiriau ei hun. Y mae ei anibyniaeth, a'i ymdrech i gael addysg, yn deilwng o sylw ac edmygedd pob plentyn. Yk wyf yn meddwl rhoddi bob mis, os medraf gael Ue, un o brif ddarnau llenyddiaeth Gymreig, er mwyn i lenorion ieuainc weled beth yw gwir fawredd a gwir dlysni meddwl. I ddechreu daw darluniad Ezekiel o fawredd a chwymp Tyrus, o'r Beibl Cymraeg. Darluniau Ysgolion. Drwg gennyf fod llawer o ddarluniau ysgolion yn hir yn ymddangos, a rhai, hwyrach, wedi mynd ar goll. Y rheswm am bron bob oediad ydyw hyn,—ni fydd yr anfonwr caredig yn dweyd a oes hawlysgrif ar y darlun. Os gofynnwyd i arlunydd dynnu llun ysgol, ac os talwyd iddo am wneyd, y talwr bia hawlysgrif y darlun. Ond os tynnu y darlun o hono ei hun, i werthu copiau, a wnaeth yr arlunydd, ei eiddo ef yw yr hawlysgrif. Cyn y medraf gyhoeddi rhai o'r dosbarth enwais ddiweddaf, rhaid i mi gael caniatad yr arluuydd. Byddaf yn dra diolchgar os gofynnir cennad yr arlunydd cm anfon y darlun; pâr hynny lawer iawn o hwylusdod i'r golygydd. Bhoddir enw a chyfeiriad y darlunydd dan y darlun,—bydd hynny yn hysbysiad iddo. B. Gwelwch fy mod yn ceisio darn i'w adrodd at bob rhifyn. Y"n y rhifyn diweddaf yr oedd un o waith Tryfanydd, yn dechreu,— " Y wawr ymgodai yn hafddydd gwyn Ar fron yr Elidir fawr." Yn y rhifyii nesaf cewch ddarn desgrifiadol gan Berthonian ar y "Tỳ ar y Tywod," seüiedig ar Matthew vii. 26, 27. M. A. Bhoddir awgrym bob amser os mai rhamant, ac nid ffaith, adroddir. GeUwch ddibynnu, er engraifft, ar gywirdeb hanes carchar y dyn du yn y rhifyn hwn ; peth welodd yr ysgrifennydd a ddesgrifia. Bahel. Bydd yn dda gennyf roddi hanes ambeU blentyn welodd ymheU i'r tragwyddol mewn oes fer. Eithriad yw plentyn felly yn y byd, ond gwn ei fod i'w gael. Gyda'i chwareuon y mae'r plentyn cyffredin, ac yno dylai fod. Pan wyf yn ysgrifennu y mae Ue cryf i ofni fod yr Ewropeaid yn Pekin,—yn wỳr, gwrageddj'a phlant,—wedi eu llofruddio mewn duU anwaraidd iawn. Yn nn o'r papurau Seisnig y mae darlun tarawiadol,—gwraig arfog (Ewrob) yn ceisio torri drws mawr ymherodraeth China, ac yn dyblu ei hergydion wrth weled gwaed yn dechreu rhedeg allan dan y drws. Bhof hanes y plant eto.