Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. IDHIS FYCHAN YN CANU GYDA R TANNAU. RDD Y DELYN. Nid wyf yn deall fod ond ychydig iawn o blant yr Urdd yn medru canu'r delyn. Nid oes manteision yn eu cyrraedd eto. Ond yr wyf yn sicr y daw'r delyn eto'n ol i'w hen wlad, yn fwynach ac yn burach nag erioed. Gwelir rhestr hir o is-athrawon yn y rhifyn hwn. Y mae'n hyfrydwch gweled athrawon ac athrawesau yn cymeryd dyddordeb yn yr iaith Gyraraeg. Os gwnant, bydd gwell llewyrch ar ein hysgolion yn fuan iawn. Y mae llawer o enwau ereill wedi dod, ond yn rhy ddiweddar i'r rhifyn hwn; ceir hwy oll yn y rhifyn nesaf. Huw Bach. Nis gellir gwerthu dau fedal Urdd y Delyn i'r im aelod os na fydd rhyw reswm neillduol dros hynny, sef colli yr hen un, &c. Tad Bob. Byddaf yn ddiolchgar iawn am bob awgrym sut i wella'r rhif- ynnau,—am ystraeon a darluniau a nodweddion newyddion a phob peth. Nis gellir fy nigio,—fy amcan yw cael y beirniadaethau mwyaf llymion. Ooi bai am awgrymiadau oddiwrth ereill ni fuasai Cymru'r Plant hanner cystal ag ydyw. Mair. " Bordigi-êra " yw'r ffordd iawn i ddweyd enw Bordighera. " Glêms " yw'r ffordd i ddweyd Glamys, "Minnis" yw'r ffordd i ddweyd Menzies, "Mannering" y gelwir M liuwaring, " Marshbancs " y cynhenir Marjoribanks, "calibiet" y cynhenir chalybeate, "Drôeda" y w'r ffordd i ddweyd Drogheda. Y"n y rhifyn hwn ceir un hanes am y gauaf,—mwyn yw meddwl am y gauaf o ganol yr haf. Caiff y plant wybod yn y cynhwysiad ar y diwedd pwy sydd yn darparu honesion swynol a rhyfedd Hans Andersen iddynt.