Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. (HILIP PHILLIPS (Castell Mawr), Geneth. ac ereül. Yn hollol ofer, er donioled eich rhesymau, y ceieiwch fy mherswadio ein bod yn yr ugeinfed ganrif. Gwir fod blwyddyn wedi mynd heibio cyn bod Crist yn 1 oed; ond, er hynny, y flwyddyn gyntaf o'i fywyd ef oedd hi ar ei hyd. Pan nad oedd ohd mis oed, yr oedd mÌB o'r flwyddyn 1 wedi mynd heibio. Nid oedd blwyddyn gyntaf y ganrif, sef y flwyddyn 1 wedi gorffen, wrth gwrs, tan oedd Crist yn ddeuddeg mis oed: ond yr oedd wedi dechreu pan ddechreuodd yntau anadlu,—a'r flwyddyn 1 oedd hi o hyd. Y flwyddyn 1 C.C. (cyn Crist) oedd y flwyddyn ymestynai at ei enedigaeth, y flwyddyn 1 O.C. (oed Crist) ymestynai oddiwrth ei enedigaeth; afresymol yw tybied fod blwyddyn 0 (dim byd) rhyngddynt. " Blwyddyn ein Harglwydd 1" yw'r flwyddyn gyntaf wedi ei eni; " Blwyddyn ein Harglwydd 100 " yw'r ganfed wedi ei eni,—beth sydd eglurach ? Y rheswm am eich camgymeriad, mae'n debyg, yw hyn. Hyd eleni, ysgrifen- nech rif deunaw wrth ddechreu ysgrifennu rhif y flwyddyn, a gwnaethoch hynny hyd ddiwedd 1899. Yna dyma droi dalen, a dechreu ysgrifennu rhif pedwar ar bymtheg, sef 1900. Tybiasoch, oherwydd hynny, eich bod mewn canrif newydd. Ond, os yw y flwyddyn 1900 yn perthyn i ganrif newydd, yr ydych yn cael y bedwaredd ganrif ar bymtheg heb y fflgiwr 19 ar ddechreu yr un o'i blynyddoedd; dechreuant oll gyda 18. Os nad yw'r flwyddyn gyntaf yn cyfrif yn rhif y blyn- yddoedd, nid yw y ganrif gyntaf yn cyfrif yn rhif y canrifoedd; a dylech felly, yn ol eich rhesymeg chwi, alw'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ddeunawfed, a'r ugeinfed yn bedwaredd ar bymtheg. Gwn o'r gorea mai ymhen canrifoedd wedi ei eni y dechreuwyd cyfrif blynydd- oedd o enedigaeth yr Iesu; y mae'n debyg mai'r hanesydd Seisnig Bede, ysgrifennai yn Lladin yn yr wythfed ganrif, a'i gwnaeth yn arferiad cyffredin i gyfrif blynyddoedd yn ol oed Crist. Beth bynnag yw'r flwyddyn hon, y mae'r rhifyn hwn yn ganfed rhifyn o Gymru'r Plant; a phan fydd yn nwylaw y darllenwyr, byddant wedi cael can rhifyn o hono. Prin y meiddiais obeithio ar y dechreu y cai fywyd mor hir. Ond y mae plant Cymru wedi rhoddi croesaw iddo, ac y mae y cànfed rhifyn yn mynd i fwy o gartrefì na'r un rhifyn o'i flaen. Ni ddiystyrwyd ef gan neb; y mae beirdd goreu Cymru wedi adäasu eu hawen at ei neges, y mae ein llenorion nrwyaf medrus wedi cyfoethogi ei dudalennau. Y mae'r Ẁasg wedi cil-wenu arno rai gweithiau. Y mae plant Cymru yn dal yn ffyddlawn iddo. A dyma'r pethau wna olygydd yn hapus. Gyda diolch cynnes am bob cynhorthwy, penderfyna wneyd ei oreu i wella'r rhifynnau o hyd,—eu gwneyd yn bur, yn ddyrchafol, yn ddyddorol, yn eglur, ac yn feddylgar. Nid oes gormod i'w wneyd i blant Cymru yn y dyddiau hyn. W. J. W. Yr oedd y dernyn wedi ei gysodi, ond y mae yn Nhrysorfa y Plant y mis diweddaf. Y mae'r ddau gyhoeddiad yn aml yn mynd i'r un teuluoedd, ac felly ni wiw i'r ddau gyhoeddi yr un pethau. Dapydd. Yr wyf yn ystyried " Holwyddoreg Dirwestol" y Parch. H. Hughes, Briton Ferry, yn un pwrpasol iawn,—yn syml, yn chwaethus, a'i bris yn geiniog.