Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. YMAE y rhifyn hwn yn eicli cyrraedd ychydig cyn, neu ar, ddygwyl Dewi. Hen sant ardderchog yw nawdd sant Cymru, ac y mae'r Cymry'n dod yn fwy teilwng o hono o hyd. Nid sant rhyfel ac anrhaith yw, ond sant efengyl ac ewyllys da at Dduw a dyn. Cofìed y plant mai efengylydd oedd nawdd sant Cymru, ei fod yn credu mewn gweddi, ac yn hoff o adar. Dywedir iod aderyn wedi codi ei bregeth o'r dŵr unwaith, a dod a hi iddo yn ei big. Ar ei ddydd gwyl ef cofìwn mai Cymry ydym, ac y disgwylir i ni garu a gwasanaethu ein gwlad fel y gwnaeth ein tadau arwrol o'n blaenau. Sylwer fod darlun o blant yn breuddwydio gyda phob un or Ystraeon Hud. Y mae dau angel, a hen wr bach y Tylwyth Teg, yn gwahodd y plant i fro dychymyg. Mewn breuddwyd, cofier, y maeut. Nid wyf yn dweyd fod y straeon yu wir: ond adroddwyd hwy wrth genhedlaethau o blant. Daughos- aut ddychymyg plant pob gwlad hefyd. Y'n yr ystori gyntaf, gwelir y dylai bachgen ymdrechu er mwyn ei fam. Yn yr ail, danghosir y dylai pob plentyn fod yn garedig wrth greaduriaid di- reswm. Yn yr yston sydd.yn y rhifyn hwn, daughosir mai drwg yw eiddigeddu wrth ereill; os bydd gan rywun rywbeth nad oes gennym ni, llawenhaw^n, a pheidiwn eiddigeddu. Daw ystraeon hud ereill rhyfeddach, o wledydd pellach, ond ca'r plant dynnu'r gwersi eu hunain oddiwrth bob un. Ail adrodd yr ystraeon yw fy ngwaith i. Y tro hwn rhoddir un o ystraeon Poland,—un o wledydd anedwyddaf y ddaear. Y mae wedi ei rhannu rhwng tri gorthrymwr Ewrob,—Rwsia, yr Almaen, ac Awstria. Gyda chwymp Kosciuezko yn Ì794, dros gan mlynedd yn ol, daeth diwedd i ryddid Poland. Yr hanes Poland goreu yn Gymraeg yw erthygl y Parch. G. Hartwell Jones yn y Llenor, llyfr V., ar Kosciuszko. Gellir cael y llyfr, pris swllt, o swyddfa Cymru'h Plant. Cefais amryw lythyrau yn ceisio fy narbwyllo mai'r flwyddyn hon yw blwyddyn gyntaf canrif newydd. Atebaf hwynt y mis nesaf. Y maent yn bur ddoniol, ond oll heb gael pen iawn y llinyn. Anfoner pob gohebiaeth ynghylch prynnu blociau, ac ynghylch arcbebion, i'r cyhoeddwyr; ac nid i'r golygydd. Arall yw ei waith ef.