Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. LYFRATJ NEWYDDION dechreu'r flwyddyn y mae adolygiadau yn Cymru Ionawr ar y rhain,—Gwaith Daniel Owen, Cyf. L, gyda bywgraffiadau gan y Parch. J. Owen; " O Lygad y Ffynnon," gan y Parch. J. O Jones, B.A.; " Hirnos Gauaf," gan y Parch. T. M. Evans, M.A.; " The Celtic Year;" '' Leçons de Grammaire Bretonne;" " Lewis Rees,'' gan Penar; "Beowulf," Miss Clara Thomson; " Gweddiau Cyhoeddus." gan y Parch. D. Cunllo Davies; " Telynau'r Wawr," gan Bryfdir; " The Elements of Welsh Grammar," gan S. J. Evans, M.A., &c. Y flwyddyn 1900, nid y flwyddyn 1899, yw blwyddyn olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Deehreuwn, wrth gyfrif, gyda 1, oni wnawn? Beth pe buasai rhywun yn eich dyled o £100, ac yn haeru mai y 99ain sofren oedd y ganfed ? Yr un fath gydag oed; nid oes neb yn ddeg pan newydd cael ei naw. Drachefn, cymerer y cloc. Tybia rhai fod y bys wedi mynd o gylch ei wyneb pan darewir un ar ddeg,—fod y ddeuddegfed awr wedi mynd. Ond " mynd yn ddeuddeg " y mae hyd nes y bydd y cloc wedi taro deuddeg. Mae llawer yn methu gweled hyn. Ymysg ereill y mae ymherawdwyr yr Almaen a Rwsia. Ond er mor awdurdodol yw'r William hwnnw, nid eiff yr hen . ganrif ddim arafach i'r pen rhag ofn iddo ef wneyd camgymeriad. D. L. Llawer o ddiolch. Ond y mae'r anerchiad yn fwy priodol i gyhoeddiad •crefyddol i ddynion nag i gyhoeddiad plant. Mae'n rhy abstract i blentyn. Rhywbeth cbr, pendant, ac ystraeon ynddo, ddealla plant. Ni fedrir cael plentyn i edrych ar drefniad gymylau, pa mor ogoneddus bynnag y bont; y fellten wêl ef. Yn rhifyn Ionawr o'r misolyn Cymru y mae dwy erthygl ddyddorol iawn i blant. Un ydyw " Tro trwy'r Wig," gan un o athrawon Cymru,; gwelir ychydig o'i diwedd yn y rhifyn nesaf. " Canu cyntaf Catrin bach," gan Miss Winnie Parry, yw y llall. Dyma'r ystori oreu ysgrifennodd Miss Parry erioed. Yr oedd yn rhy hir i'w rhoddi mewn un Cymru'r Plant, ni fuasai rhifyn cyfan yn ei chynnwys. Yr oedd yn resyn ei thorri yn benodau, gan mai rhyw ychydig ddyddiau mae'n ddarlunio. Felly rhoddais hi yn Cymrü, gan obeithio y myn y plant ei darllen yno. Anfoner pob achebion am rifynnau at y cyhoeddwyr. Os anfonir at y Gol- ygydd, colÜr llawer o amser. Da gennyf ddeall fod cyfeülion rbai eglwysi yn rhoddi Cymru'r Plant yn rhad drwy'r flwyddyn i blant Üodion yr eglwys nas gallant fforddio ei brynnu. Nis gallaf ymrwymo i ddychwelyd dim ysgrifau anfonir imi. Cadwed yr ysgrifennydd gopi o bob peth enfyn i olygydd.