Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ioldeb. Beth sydd harddach na^ I ddylem ofni y Gauaf, na diystyrru ei bryd-) ferthwch. Yr oedd Islwyn yn hoff iawno'rî Gwanwyn ac o'r Haf, ond meddai,— " Mwy cydnaws â'm hysbryd yw'r Hydref rhaiadros;, A gwyntoedd'.y ü-auaf, y gwyntoedd hir- aethog." Ar ddechreu blwyddyn gadewch i ni ben-, derfynu fod llaw Duw yn dyner arnom bob amser. Y mae i'r Gauaf, fel yr Haf, ei bryd-: ferthwch, ei dynerwch, ei dlysni, ei ddefnydd- ehangder o fynyddoedd mawrion dan orchudd' o eira gwyn ? Llawer gwaith y clywais fechgyn o'r India, wrth edrych arno am< y tro cyntaf erioed, yn dweyd ei fod yn harddach na holl ysblander lliwiau eu> gwlad hafaidd hwy. Sylwch ar brydferthwch canghennau a brigau'r coed,—yn enwedig rhai'r fedwen. Sylwch ar eu cysgodion ar noson oleu leuad. Ouid oes swyn yn swn ystormydd? Dysged y plant fod yn hapus,—y mae ein Creawdwr yn meddwl i ni fod felly. Cofìwch am yr adar,—yn enwedig robin goch. Y maent hwy wedi aros gyda' ni, tra y miloe'dd o adar eraill wedi croesi'r môr, i fwrw'r gauaf mewn gwledydd cynhesach. Dywedaf hanes y crwydriaid bychain hyn i chwi pan ddont yn ol. Ond y mae rhai wedi aros gyda ni; ac y maent, ond odid, yu eich gwylio bob ì bore, gan ddisgwyl briwsion. Nid oes arnynt ofn yr oerfel, y mae eu Creawdwr wedi rhoddi gwisg gynnes o blu iddynt. Os cânt gysgod a bwyd, byddant byw tan y gwanwyn, a chanant eu diolch i chwi. Da gennyf weled fod darpariaeth mor dda ar gyfer plant Cymru y dyddiau hyn. Os cawn y plant, cawn yr oes a ddel. Y mae gan yr enwadau bron oll gylch- gronau i'r plant. Mae gan blant y Methodistiaid eu Trysorfa, plant yr Anibynwyr eu Dysgedydd, plant y Bedyddwyr eu Hauwr, plant y Wesleaid eu Gwinllan, plant yr Eglwyswyr eu Perl. Ni cha Cymru'h Plant arddel perthynas âg un sect yn fwy na'i gilydd, ac felly nid oes dull i'w hysbysebu ef fel y lleül. Bhaid iddo ddibyn- nu'n gyfangwbl ar ei ddarllenwyr. Os na chaiff help ganddynt hwy i fynd ymlaen i dderbynwyr newyddion, nis gall fynd ymlaen fel y dymunai. A ga'r golygydd ofyn i'w garedigion a wnant ei ddwyn i sylw trwy unrhyw foddion a larnant hwy yn ddoeth? Y mae'n apelio yn enwedig at athrawon, gan mai ei brif arncan yw ennyn dyddordeb plant mewn darìlen a chwilio. Ebe'r bardd,— 1 Oymbu'r Plant dymunwn wir flwyddyn newydd dda I gario inni eto doreithiog ffrwythau ha ; I'n llonni a'n dyrchafu, a'n gwneyd yn well bob*dydd, Mae Oymru'r Plant yn gwenu ymlaen ar Üymru fydd.. Wrth inni o'n calonnau ddymuno blwyddyc wen I Gymru'r Plant cydunwn i'w godi ef yn ben, Drwy ddyblu ei dderbynwyr yi g ngoleu haul y dydd, Fel byddo'i lewyrchiadau yn fwy ar Gymru fydd. Ar ddechreu'r ganrif newydd boed iddo mewn mawrhad Gael drws agored Uydan i mewn i dai ein p.wlad; Mae Cymru'b Plant yn haeddu derbyuiad breiniol rydd, Mae'n seren sy'n goleuo yn awyr Cymru fydd. 'lowyn. Ilar D.wies.