Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

At Ohebwyr. Nid oes lle yn y rhifyn liwn i orffen yr ysgrif au ar breswylwyr gwaelod y môr. lihaid eu gadael tau ddaw cyfle eto,—y rhai sy'n cydio yu y gwaelod heb byth ei adael, y rhai sy'u crwydro hyd y gwaelod mewu mantell o gregyn benthyg, y rhai sydd a safnau anferth yn agored yn y tywyllwch yn disgwyl i'w hysglyfaeth syrthio iddynt. Rhaid i mi gael darluniau ohonynt, mae'n anodd desgrifio pethau mor ryfedd. Bydd yn ddrwg gan liaws o blant, hen ac ieuanc, golli cwmni y Ddau. Yr wyf yn disgwyl, ffordd bynnag, y bydd Miss Winuie Parry yn eiu cyflwyno i rywrai ereül y flwyddyn nesaf eto. Rhyfel sydd rhyngom a Boeriaid y Transvaal eto. Y mae llawer un ieuanc dewr wedi cwympo o bobtu. Y mae llawer bedd auamserol wrth droed Mynyddoedd y Dreigiau, a cher afon Orange. Y mae llawer cartref galarus ym Mhrydain, a llawer cartref galarus yug Ngweriniaeth Deheudir Affrig. Yr wyf yn rhoi darlun heddwch yn y lle crwu y mis hwn, i ddaugos fy ngobaith y daw'r flwyddyn newydd a heddwch gyda hi. Gwelir fod hanes byr pob un o'r tair sir ar ddeg yn y gyfrol hon. Cyn bo hir adroddir hanes addysg ymhob sir, a rhoddir rhestrau o'u dynion mawr, gyda bywgraffiadau byrion. miss winnie pahry. Gwneir tysteb geuhedlaethol i Gran- ogweu. Dylai plant a merched, yn enwedig, ddal ar y cyfleustra i aurhydeddu un wuaeth gymaint i godi ein gwlad. Bydd yn dda gennyf dderbyu uurhyw symiau i'w hanfou i'r trysorydd. Cydna- ■byddir eu derbyuiad ar y ddalen hon. Gwelir fod amryw gyfresau wedi eu gadael ar eu hanner, o ddiffyg lle, megis Brwydrau Ehyddid, Meddygon, a Rhyfeddodau Celfyddyd. Parheir hwynt yn y gyfrol newydd. Da gennyf hysbysu fod plant Urdd y Delyn yn rhifo dros fil ar ddiwedd y flwyddyn hon. Pwy ẁyr beth a ddaw'r ganrif newydd gyda hi i Gymru ? Y mae blociau Cymru'r Plant ar werth. Y mae'n ddiamheu y bydd yn dda gan rai eu cael at argraffu adroddiadau ysgoliou, cardiau cof, rhaglenni cyfarfodydd, neu lyfrau. Hauner coron yw pris y rhai lleiaf; ac yn gyffredin, chwe cheiniog j fodfedd ysgwar. Ymoheber â'r cyhoeddwyr, er mwyn emnill amser. Ar ddiwedd y flwyddyn hon eto, yr wyf yn rhoddi fy niolchgarwch gwresocaf i'r rhai sydd wedi'm cynorthwyo mor garedig. Ystori, cân, darlun,—daw rhyw- beth imi bron bob dydd ; a gwel y plant oddíiwrth hynny fod rhai yn meddwl am danynt. Y mae inni ddosbarthwyr ffyddlou hefyd, nis gallem wneyd dim hebddynt hwy,—bydded iddynt weled o ffrwyth eu llafur.