Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y8GWRS Y GOLYGYDD. Yr wyf yn deall fod y darnau i'w darllen yn ddifyfyr yn peri difyrrwch mawr mewn cyfarfodydd ac ar aelwydydd. Ond gorfod i mi daftu amryw ddarnau da i'r fasged oherwydd fod cyfeiriadau at grefydd a'r Beibl ynddynt,—pethau nad ystyriwn yn destynau chwerthin. Cofìed fy nghynorthwywyr caredig am yr awgrym hwn. Weithiau anfonir archebion am rifynnau, a stampiau neu ddulliau ereül o arian, i'r golygydd. Na wnaer hynny. Anfoner yn uniongyrchol at y cyhoeddwyr. Golygu yw gwaith golygydd, ereill sy'n gwerthu. Xid oes neb yr wyf yn teimlo'n fwy diolchgar iddynt na'r rhai sy'n anfon darluniau imi, yn enwedig darluniau o blant ysgol. Bydd amser hir yn mynd, yn ddigon amí, cyn y cerûr ac y cyhoeddir y darlun. Y mae dau achos oediad,— y golygydd yn methu cofìo darlun pwy yw, neu ryw anhawsder ynglŷn â hawl- ysgnf. Byddwn yn dra diolchgar pe'r ysgrifennai fy nghyfeillion caredig enw yr ysgol neu y gwrthrych ar gefn pob darlun. Dylent fy hysbysu hefyd a gawsant ganiatad yr arlunydd. Os hwy ofynnodd i'r arlunydd dynnu darlun, ac os talasant am dano, nid oes eisiau gofyn cennad. Ond os prynnu darhm mewn siop a wnaethant, neu gan arlunydd a'i tynnodd i'w werthu, rhaid gofyn cennad yr arlunydd, ac yn aml ni roddir caniatad. Bydd amser maith yn mynd yn aml cyn y medraf gael sicrwydd am hawlysgrif y darlun. Y mae llu o ddarluniau ar gyfer y gystadleuaeth wedi dod. Nid peth hawdd yw penderfynu ar y goreuon. Y mae llawer o wahaniaeth medr ymysg yr ymgeiswyr,—rhai, mae'n amlwg, wedi cael profìad hŵy na'r lleill. Y mae gwahaniaeth mawr yng ngallu'r ymgeiswyr hefyd i weled beth sy'n hardd, yn enwedig wrth dynnu golygfa. Bydd y dyfarniad yn y rhifyn nesaf, a rhai o'r darluniau goreu. Y mae teulu y diweddar T. E. Ellis yn parotoi Cofìant iddo. Os medd rhywrai lythyrau neu ysgrifau o waith y gwlaâweinydd ymadawedig, a fyddai mor garedig a'u hanfon i un o'r rhai canlynol,—Thomas EIlis, Cynlas, Corwen; 0. M. Edwards, Lincoln College, Oxford; D. B. Daniel, Four Crosses, Pwllheli; J. H. Davies, Cwrt Mawr, Llangeitho. Cymerir pob gofal am danynt, a dychwelir hwy. Bydd awgrymiadau a hanesion yn dderbyniol hefyd. Cofìed ysgrifenyddion corau, ac ereül, mai cyfansoddwyr tonau Cymrtj'b. Plant bia hawlysgrif y tonau, ac nid y golygydd. Cael eu benthig y maeef. Os bydd eisiau caniatad i'w hargraffu, anfoner at y cyfansoddydd. 0 hyn allan, byddwn yn ddiolchgar iawn i gyfansoddwyr pe roddent eu cyfeiriad yn llawn wrth ben eu tonau. Dau rifyn sydd i ddod eto o'r gyfrol hon. Yna bydd blwyddyn newydd o'n blaenau. Yr wyf wedi cynllunio llawer yn barod ar gyfer y gyfrol newydd, ac yr wyf yn meddwl y ca plant gymaint o flas, os cawn oll ein harbed, ar rifynnau'r flwyddyn nesaf ag a gawsant ar rifynnau'r flwyddyn hon. Ni wiw i mi ddweyd mor bell ymlaen beth fydd yn y gyfrol newydd; ond. gallaf ddweyd fy mod yn sicr mai hi fydd yr oreu eto. Yr wyf yn gobeithio yv cynorthwya fy narllenwyr fì i ddwyn y rhifynnau i syíw ereill, fel ag i ehangu'r cylchrediad.