Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGWRS Y GOLYGYDD. BLANT, ac i bawb o ran hynny, y mae rhyw swyn mewn cystadleuaeth ac ymgais. Cof- iwch mai testyn y gystadleuaeth oedd " Paham y mae fy ardal yn hynod." Cefais lawer o draethodau dyddorol iawn am wahanol ardaloedd. Bai llawer yw rhoddi desgrifìad o'u hardaloedd, yn lle dweyd yn eglur paham y maent yn hynod. Mae pawb yn canmol ei ardal, wrth gwrs ; ac y mae un awdures fechan ddyddorol yn dweyd os caiff hi'r wobr, y bydd ei hardal yn eu- wocach fyth. Pigais y desgrifìadau goreu, a dyma restr ohonynt. Rhof enwau'r ardaloedd ddes- grifir, ac enw'r ysgrifennwr. GWOBRWYEDIG. Llanelltyd: J. H. Williams, Tyddyn Gwladus. Penllwyn : A. J. Pierce, Fron Heulog. Porthmadog : J. E. Roberts. Llanhedr Pont Stephan : B. Morris, Blaenplwyf Lodge. Ffestiniçg : D. O Jones, Bod Ifor. Dolgellau: Lewis Jones, 1, Brynteg. EXW ANRHYDEDDUS. (Gwobrwyir rhai o'r rhai hyn hefyd.) Garthheihio : J. Heath, Pant Glas. Glynarthen : O. M. Owen, Plas. Llandyssul : D. Evans, 40, Brynhyfryd, Ferndale. Dolgellau : Uii o'r Bryn. Port Talmot : Annie E. Jones, 2, West End. Dolyddelen : Ned. ac Un hoffus o'i ardal. Llanfairfechan : Hu ap Ioan. Margam : W. E. Jones, Taibach. Beddgelert: Gelert. Dyffryn Maelor : Maelorwr. Caergybi ; T. Parry. Castell Nedd : Mynach. Llanfaelrhys : Griffith Evans. Rhoddir y wobr gyntaf i J. H. Williams; yr ail i H. J. Pierce; y drydedd i -J. R. Roberts. Rhoddir gwobrwyon ereill i'r lleill. Y Dasg nesaf. Gwn fod llawer o ddarllenwyr Cymru'r Plant yn meddu camera, ac yn medru tynnu lluniau. Rhoddaf wobr o ddeg swllt i'r goreu, coron i'r ail, a hanner coron i'r trydydd, am wawl arlun wedi ei dynnu ganddo ef ei hun. Ni waeth beth a fo,—golygfa ar dir neu fôr, bodau dynol, creaduriaid, adar, coed, llynnoedd, &c. Mae'r lîuniau i'w hanfon i 0. M. Edwards, Bryn'r Aber, Llanuwchllyn, y Bala, erbyn Medi laf. Ni ddychwelir yr un darlun, buddugol neu beidio. Oyhoeddrr y rhai goreu yng Nghymru'r Plant os bernir hwy yn werth y gost o'u cerfìo.