Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CARN FADRYN, LLEYN. TUDALEN Y GOLYGYDD. Yn hanes plant Froncysylltau yn y rhifyn diweddaf llithrodd un camgymeriad i mewn. Edward Thomas Jones, trysorydd Urdd y Delyn, enillodd ran o wobr y " Ddau Wynne." Ymysg llyfrau newyddion y mae Hanes Iesu Grist, gan y Parch. J. Grawys Jones; Hanes Eylwys Anibynnol JEbenezer, Aberdâr; Gwanwyn Bywyd. gan y Parch. J. Hughes, M.A., Lerpwl; Cofiant a Gweithiau Gwalchmai, dan olygiaeth y Parch. E. Peris Wüliams; Edmwnd Prys, gan Glan Menai; Yn ei Gamrau, cyf. gan y Parch. D. E. JenMns, Porthmadog; Edmwnd Prys, gan Asaph; ac ereill. Gweler nodiadau llawn yn Cymru Mehefin. Gwelir fod aelodau Urdd y Delyn erbyn hyn dros fll. Y mae mil o blant, o leiaf, yn hoff o Gymru, ac yn ffyddlawn i'r iaith Gymraeg. Mewn rhifynnau dyfodol bydd ychwaneg o hanes Llansannan, a darluniau o'i hen gartrefi. Am hanes taith yno, a'r dadorchuddio, a darluniau prydferth o'r gofgolofn, Chwibren, rhai o blant Llansannan, &c, gweler Cymru Gorffennaf. Yn y lle crwn gwelir Hughie Thomas Jones, Llanfairfechan, yn ddwy flwydd oed, yn cychwyn i dreulio ei wyliau ar lan y môr.