Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"ty ■ YSGWRS Y GOLYGYDD. HOFF iawn gan y meddwl yw crwydro i wledydd pell. Oni ŵyr pob plentyn am y meddwl hwn? Muriau Jerusalem, a'r dwyreinwyr sy'n cael syllu arnynt, onid yw pob Cymro yn hiraethu am danynt ? Nis gwelodd Iorwerth Glan Aled hwy; ond, gyda dychymyg bardd, darlun- iodcl yr holl leoedd y bu'r Iesu ynddynt. Dylai'r plant wybod am " Balestina" y bardd melodaidd hwn. Onid elíid ei chyhoeddi yn llyfr bychan darluniedig tlws? Erbyn y daw'r rhifyn hwn i ben ei daith, bydd cofgolofn enwogion Llansanan wedi ei dadorchuddio. Gwaith W. Goscombe John ydyw, llun genethig yn dal torch o flodau uwch eu henwau. Y mae pump ohonynt,—Tudur Aled, y mynach Ffranciscaidd, bardd olaf a melusaf y Cyfnod Aur; WilHam Salesbury, cyf- ieithydd y Testament Newydd; y ddau frawd o'r Chwibren,—Gwilym Hiraethog a Henry Bees ; a'r bardd mwynber lorwerth Glan Aled. Pa le all ddangos cystal gwỳr ? Os medraf, af i weled y dadorchuddio, a chewch yr hanes i gyd. Dengys y golofn fod pob matho grefydd wedi gwasanaethu Cymru,—y Pabydd, yr Eglwyswr, yr Anibynnwr, y Methodist, y Bedyddiwr. Yn y lle crwn am y mis hwn gwelir llun Evau Jones, y bachgen bach gobeith- iol foddodd yn afon Ffestiniog. Mae ei hanes yn nes ymlaen.