Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDD. Gwelir y feirniadaeth ar yr hanesion ar dudalen arall. Cefais gasgliad canipus, a chaiff Uawer ohonynt ymddangos. Yr oedd beirniadu yn waith anodd. Pen- derfynais yn ffafr ystoriau byrion, cynhwysfawr, naturiol, tarawíadol. Y rnae Uawer o'r ysgrifenwyr galluocaf a mwyaf gwreiddiol yn colli mewn synürwydd cynllun. Dylai ystori fod yn gyfanwaith dealladwy, fydd yn aros i gyd yn y meddwl wedi ei darllen. " ' ==^<5a^ÄÌi.BEED , bttu ffC ^ìi ^Y testyn nesaf fydd " Paham mae fy ardal yn hynod?" Rhoddir yr un wobr, sef Gwaith Islwyn i'r goreu; a rhennir gwerth tua phumpunt o lyfrau rhwng yr ymgeiswyr eraill, os bydd teilyngdod. Y mae'r ysgrrfau i gyrraedd O. M. Edwards, Lincoln College, Oxford, cyn neu ar y dydd cyntaf o Orffennaf. Y mae blociau Cymru'r. Plaxt ar werth, am brisiau isel iawn. Ymofynner â'r swyddfa ; nac ysgrifenner at y golýgydd, onide rhaid i'r llythyr fynd i'r fasged. Goddefer i mi hysbysu nas gellir rhoddi benthyg y blociau hyn o hyn allan, gan eu bod yn awr ar werth; sylwer ar hyn. Y mae gwaith gohebu dirfawr gyda Chymru'r Plant, fel y gellir meddwl. Am hynny maddeuer i mi am fethu ateb llythyrau weithiau,—y mae'n amhosibl «u hateb i gyd. Anfoner pob peth ynglỳn â cherddoriaeth i Mr. L. J. Roberts, M.A., Tegfan, Rhyl. "í? Un tudalen sydd gennyf i'w roddi i Urdd y Delyn y mis hwn. Gwelir fod rhif yr aelodau yn awr yn 971,—y mae dau o'r 973 wedi marw. Y mae digon o enwau wedi dod, yr wyf yn meddwl, i'w gwneyd yn fil; ond nid oes le iddynt dan y rhifyn nesaf. Y mae Cymru oll yn galaru, tra yr wyf yn cael yr olwg olaf ar brawflenni'r rhifyn hwn, am y pur a'r caredig T. E. EIlis.