Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGWRS Y GOLYGYDD. NFONER tonau i L. J. Roberts, Ysw., M.A., Tegfan, Rhyl; anfoner pob archebion am rif- ynnau, cyfrolau, a chloriau i'r cyhoeddwyr,— Mri. Hughes a'i fab, Gwrecsam. Os anfonir hwy i'r Golygydd, gallai y bydd oediad hir iawn. Gwerthir blociau'r darluniau ymddengys yng Nghymru'r Plant am ychydig iawn, am lai na hanner cost eu cerflo. Y mae'n sicr y bydd yn dda gan lywodraethwyr ysgolion gael darlun o'r ysgol i'w argraffu yn eu hadrodd- iad; bydd yn dda gan rieni gael darluniau o'u plant i'w hargraffu ar gardiau Nadolig; a bydd yu dda gan argraffwyr gael darluniau o wŷr cyhoeddus a lleoedd enwog, i'w rhoddi mewn cylchgronau neu bapurau newyddion. Pris bloc llond tudalen Cymru'r Plant yw tua 10/- ; pris bloc hanner llond y tudalen, tua 5/- Ymofynner â'r cyhoeddwyr. Gwelir darlun o uu o Gymry ieuainc Maesyfed,—mab Mr. Morgan, Plas yn Dre, Rhaiadr,—yn y lle crwn y tro hwn. O ochr ei fam y mae yn orwyr i'r enwog Michael Roberts, Pwllheli, un o bregethwyr mwyaf seraffaidd Cymru. Gobeithiais y medrwn roddi enwau buddugwyr y gystadleuaeth ar y tudalen hwn. Ond nid oes digon o le iddynt, nac yn wir i hanner y rhai hoffwn roddi crybwylliad anrhydeddus o'u henwau. Gwell gennyf gael yr enwau priodol bob amser, er mwyn i mi fedru gyrru'r gwobrwyon heb orfod ymohebu ychwaneg. Trafferth ddianghenrhaid yw ysgrifennu dau lythyr lle y gwna un y tro. O hyn allan, anfoner yr enwau priodol gyda'r traethodau. Yr wyf yn sicr y bydd y rhestr hir yn barod erbyn y rhif yn nesaf. R. W. T. (Llandderfel). Ni welais yr hen allor yn y coed y soniwch am dani erioed, er nad ydyw ond gwaith tua chwarter awr o gerdded o orsaf Llandderfel. Da gennyf eich bod yn troi'ch meddwl at hanes ein tadau, bydd yr astudiaeth yn hyfrydwch i chwi trwy eich bywyd. Cofgolofn Llywelyn. Daeth 6/- o Fourcrosses, sir Gaernarfon, trwy law W. Larsing. Dyma enwau y cyfranwyr,—Peredur Ll. Daniel, 2/-; R. O. Williams, 1/-; R. R. Jones, 6ch.; Elias Hughes, 6ch.; W. H. Roberts, 6ch.; O. Owens, 2g.; W. Larsing, 1/4. Bydd yn dda gennyf drosglwyddo symiau eto at gofgolofn Llywelyn neu at gofgolofn Daniel Owen. Daeth llawer o enwau yn rhy hwyr i fod yn rhestr Urdd y Delyn y mis hwn, ■ond deuant yn y rhifyn nesaf.