Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGWRS Y GOLYGYDD. «•«ft^gj YN Y DWYliAIN. (0 Gîmhv'k Plant, Cyfrol VII.) Y mae cyfrol Cymru'r Plant am 1898 yn awr yn barod, wedi ei rhwymo mewn lliaii coch cryf a destlus. Nid yw y pris ond deunaw ceiniog. Pan gofir fod yn y gyírol 376 tudalen, gyda 154 0 ddarluniau, a'r oll wedi eu rhwymo yn gyfrol dlos, nid gormod yw dweyd mai dyma'r gyfrol rataf gyhoeddwyd yng Nghymru erioed. Mae'r cyfrolau ereül yn amhosibl eu cael erbyn hyn; ond penderfynwyd cadw stoc o gyfrol 1898, er 'mwyn cael cyfrolau i'w rhoddi yn wobrwyon mewn cyfarfodydd ac i'w hanfon yn anrhegion i berthynasau a chyfeillion mewn gwledydd pell. Os oes rhywun wedi colli rhai o'i rifynnau, dyma gyfle i gael cyfrol gyflawn am lai na'r pri.s ofynnir am ei rhwymo 'n unig. Anghoflais ddweyd wrthych pwy oedd a'u darluniau yn y lle crwn y llynedd. Trowch yn 01 i'r gyfrol, neu i'ch rbifynnau, a mi a ddy wedaf wrthych. Ym mis Ionawr cewch lun Owen ab Owen, mab hynaf y golygydd, fu farw ar fìn ei bump oed; ef e oedd yr aelod cyntaf o Urdd y Delyn fu farw ; canwyd cân gobaith ei fywyd gan Iolo Caernarfon, a'i farwnad gan Elfed ac eraill; mae ei fedd yn Llanuwchllyn. Dafydd Jones, Glan Dŵr, sydd yn rhifyn l'hwefrol; Arthur Williams, Dôl Hendre, yn rhifyn Mawrth; ìfan ab Owen, Rbydychen, yn rhifyn Ebrill; a mab y Parch. E. D. Priestly Evans, gweinidog yr Undodwyr yn liidderminster, yn rhifyn Mai. Yn rhifyn Mehefln mae dau bleutyn baca caredig dynnodd John Thomas, Cambrian Gallery, ar eu ffordd i'r ysgol yn Fourcrosses, Lleyn. Cefnder bach o Lydaw sydd yn rhifyn Gorffennaf. Plentyn, adwaenwn i gynt, yn cysgu yn yr haf, sydd yn rhifyn Awst. Arthur Williams, Tyddyn Deicws, gollwyd ar Fynydd Hiraethog, ond a gawd, sydd yn rhifyn Medi. Llinos Iddon, fu farw'n ieuanc, sydd yn rhifyn Hydref. Jane Aerwen Morris, Porth Madog, sydd yn rhifyn Tachwedd; ac yn rhifyn Rhagfyr ceir dau blentyn Mr. 0. Owen, ariannydd, Pwllheli, a chyfnither iddynt o Ddyffryn Conwy. Addewais roi enwau'r plant ymhob rhifyn fel y deuant. Y flwyddyn hon bydd y plentyn o'r sir ddarlunnir yn yr un rhifyn. Yn Ionawr yr oedd Ann Gwenllian, merch Mr. E. E. Jones, 6, Rennie Street, Riverside, Caerdydd, i gynrychioli Morgannwg. Y mis hwn gwelir darlun o fab Mr. J. A. Jenkins, B.A., Cofrestrydd Coleg y De, i gynrychioli Ceredigion,—un o Aberystwyth yw ; y mis nesaf daw orwyr i Michael Roberts, Pwllheli, gyda hanes sir Faesyfed. <jrwelwch ddarlun o Dr. Emrys Jones yn y rhifyn hwn. Y mae ganddo erchygl ar Daniel Ddu o Geredigion yn Cymru, rhifyn Chwefrol. Medded fy nghynorthwywyr amynedd ; byddaf yn parotoi y rhifynnau weithiau fisoedd ymlaen. Daw enwau buddugwyr y gystadleuaeth yn y rhifyn nesaf, a hanes cystadleuaeth arall. Bydd rhestrau a hanes canghennau Urdd y Delyn hefyd.