Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGWRS Y GOLYGYDD. Blwyddyn newydd dda i chwi oll,—bur fel yr eira, lawn fel yr haf. Cawn gwruni ein gilydd.—os cawn fywyd,—hyd ddiwedd blwyddyn arall. A pha lafur neu brofedigaeth bynnag sy'n gudd dan lenni'r flwyddyn, nid oes dim mor lawen i'r golygydd a chwmni plant. Gwelwch fod llawer o ystoriau newydd yn cychwyn yn y rhifyn hwn. Oher- wydd diffyg lle, gorfod i mi adael, tan y rhifyn nesaf, yr ysgrif gyntaf o gyfres ar " Fywyd y Môr." Adroddir hanes y planhigion a'r pysgod sy'n byw ar wyneb, yn eigion, ac ar waelod y môr mawr. Cynhygiwyd gwobr yn rhifya Hydref am enwi y pregethwr, bardd, llenor, cerddor, a seneddwr mwyaf poblogaidd, barn y mwyafrif i benderfynu. Dyma'r rhai agosaf at farn y mwyafrif,—Parch. John Wüliams, Lerpwl; Dyfed; golygydd Cymru'r Plant ; Dr. Parry; T. E. Ellis. Nis gellir rhoddi dim pwys ar y dyfarn- iad pwy yw'r llenor mwyaf poblogaidd, gan fod y plant caredig yn sicr o enwi eu golygydd. Ennwyd llawer iawn o rai étaill ymhob cangen. Yr unig un enwodd y pump yn llawn yw Ceridwen Machno. Anfoned ei henw i Mr. Morgan, a chaiff y wobr. Cofled pob plentyn fod darlun y " Babanod yn y Coed" yn dod yn rhodd, gyda'r rhifyn hwn, i bob un ofynno am ei rifyn mewn pryd. Os bydd llawer o dderbynwyr newyddion, daw darluniau ereill yn rhoddion gyda rhifynnau ereill y flwyddyn. Cofled y plant fod yn bosibl cael llyfrau Urdd y Delyn o swyddfa Cymru'r Plant,—Sanes Cymru (ceiuiog), Liarhebion Cymru (ceiniog), Islwyn (ceiniog), a Diliau'r Delyn (dwy geiniog), llyfr alawon i'r cyfarfodydd. Yng nghyfres y Llenor y mae dau lyfr yn awr yn barod, mewn llian prydferth, a chyda llawer o ddarluniau. Gwaith Glasynys yw y naill, a Gwaith Bobert Joncs Rhos Lan yw'r llall. Hanner coron yr un yw prisiau'r cyfrolau hyn. Cofier am Gymru hefyd. Y mae rhifyn Ionawr yn rhifyn dwbl,—pris swllt. Ni chyhoeddwyd erioed yng Nghyniru gymaint o erthyglau a darluniau am y prís. Ymysg y darluniau bydd "Llecyn Tlysaf Cymru" gan S. M. Jones; "Gwerthu'r Ferlen," gan A. E. Elias; "O gylch y tâu," gan D. J. Davies; Mynwent Abererch (lle claddwyd E. ab Gwilÿm Ddu) ; cyfres o ddarluniau o Fro Morgannwg; Mynachlog Tal y Llychau; Eglwys Dewi Sant; portreiadau o Gwilym Hiraethog a llawer ereill. Ÿn y darluniau a'r erthyglau y mae talent oreu Cymru i'w gweled.