Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGWRS Y GOLYGYDD. Y mae gwybodaeth yn amlh.au o hyd, ac y mae cyrrau newyddion o'r byd,— megis canolbartb rhyfedd Affrig a thiroedd cudd dieithr Thibet,—yn dod i'r golwg beunydd. Yr wyf yn gobeithio y caf fl a'm cymdeithion ieuainc fyw flwyddyn eto i ddilyn y teithwyr, mewn dychymyg, i'r lleoedd newydd hyn. Telir sylw mwy manwl yn awr i fywyd anifeüiaid ac adar,—y mae cywrein- rwydd y meddwí dynol bron yn aniwaìl. Bron bob mis gwneir rhyw ddargan- fyddiad dyddorol, a daw creadigaeth Duw yn llawnach o ryfeddodau bob dydd. Yn y flwyddyn hon bii llygaid y byd yn tremio ar hen wledydd y ddaear,—ar yr Aifft a Phalestina. Tra'r wyf yn ysgrifennu, cred llawer yr aiff dau o'r galluoedd mawrion i ryfel ynghylch talaethau'r Aifft; ac y mae ymherawdwr gwlad arall yn mynd ar bererindod gorwych ar draws y wlad fu'n llifeirio o laeth a mel. Y flwyddyn nesaf, cawn ddesgrifìo beth a welodd. Pur hwyrfrydig yw Bob Tan y Mynydd i gredu mai mis Hydref yw mis gwlypaf y flwyddyn. Ond rhaid i Bob goelio'n fuan neu'n hwyr os deil i chwilio ao i sylwi. Adgofla'r golygydd cerddorol fì fod Milton yn son yn Comus am " wet Üctober's torrent flood." Y mae'n berffaith wir y bydd y gôg yn dod" 7 ei wyau yn nythod adar ereill. Gwelais nyth yn ddiweddar Üe'r oedd yr aderyn wedi gwneyd twll yng ngwaelod ei nyth, ac wedi gwthio wy'r gôg iddo. Enw'r ystori ysgrifennir ganMiss Winnie Parry i rifynnau'r flwyddyn nesaf yw " Y Ddaù Hogyn Rheiny." Bydd cyfrol 1898 wedi ei rhwymo ac ar werth am 1/6 gydag i'r rhifyn hwn • ddod o'r wasg. Enw'r darlun mawr rhoddir yn anrheg gyda rhifyn Ionawr o Gymrtj'h. Plant, i bawb rydd ei archeb mewn pryd, yw " Y Babanod yn y Coed." Ychydig sydd am hanes a llenyddiaeth Cymru ÿn y gyfrol hon. Bydd llawer . ychwaneg yn y nesaf. Ymysg pethau eraül bydd hanes pob sir, gyda darluniau o gestyll, trefì, pontydd, a phlant. Rhoddir lle hefyd i Lydaw, y Wladfa Gymreig, ac i'r Cymry ar wasgar. Dechreuir adrodd hanes yr Iwerddon a Chernyw hefyd. Yn lle'r deuddeg erthygl ar ryfeddodau Natur daw deuddeg erthygl ar ryfedd- •odau Celfyddyd yn y gyfrol nesaf. Gweddied pob plentyn am i lawer o ddaioni ddod i Gymru y flwyddyn hon. Hen genedl odidog oedd ein tadau ni, a dylai euplant wneyd da i'r byd. Mae rhyw ddeffroad yn y byd Celtaidd. Mae chwilio mawr i hen drysorau Cernyw, mae'r ddrama Lydewig yn ail godi, mae'r Gwyddelod yn meddwl am eu hen iaith, a'u hen lenyddiaeth. Ond addefant i gyd mai plant Cymru fedr ddangos oreu i'r byd faint o ddaioni fedr y Celt wneyd heb golli ei genedl na'i iaith.