Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGWRS h GDIYGYDD. Bydd yn dda gan ei dderbynwyr ddeall fod Cymru'b. Plant yn liwyddo fwyfwy, ac felly y ca pob derbyniwr fwy am ei geiniog y flwyddyn nesaf, Bwriedir cyflwyno, yn ystod y flwyddyn, ddarluniau tarawiadol a phrydférth, cymhwys i'w fframio neu eu cadw mewn portfolio. Gyda rhifyn Ionawr rhoddir darlun y " Babanod yn y Coed." Nid argreflìr ond hynny dybir fydd eisiau. Os bydd y galwad am Gymru'b. Plant yn fwy na'n hamcangyfrif, fel y mae bob blwyddyn, ail argrefflr y rhifyn, ond bydd y cyflenwad o'r darlun wedi darfod. Felly, gofaled pob un am archu rhifynnau'r flwyddyn nesaf ar unwaith. Yr ydys wedi penderfynu pa rai o'n cymdogion gaiff eu darluniau, a darluniau eu cartrefi, yn rhifynnau'r flwyddyn nesaf. Dyma hwy,—y llwynog, y wiwer, y barcutan, y wningen, y creyr, y draenog, y wenci, y fôr frân, y carw, y fulfran, y dyfrgi, a'r carlwm. Bydd ystori gan Miss Winnie Parry'n rhedeg drwy ddeuddeg rhifyn y flwyddyn nesaf. Un ymgeisiodd am ysgoloriaeth Cymru'r Plant, sef Herbert Davies, o Ysgol y Sir, Tregaron. Yr oedd yn dda gennyf gael anfon y pumpunt iddo, gyda diolch- garwch am ei sel a'i garedigrwydd. Anghofiais ddweyd, yn y rhifyn diweddaf, fod argrafflad swllt, yn ogystal ag argraffiad chwe cheiniog, o gyfres Clasuron Cymru. Y mae'r argrafiìad swllt yn fwy, ac wedi ei rwymo mewn llian hardd Y mae Gweledigaethau Bardd Owsg a Drych y Prif Oesoedd wedi eu cyhoeddi yn y gyfres hon. Y mae Gwaith Goronwy Owen ymron yn barod. Cynhwysa hwn farddoniaeth a llythyrau y gŵr athrylith- gar ac adfydus,—ei holl weithiau Cymraeg; dyma waith y bardd mawr, a'r Uythyr-ysgrifydd dyddorol, am chwe chemiog. Cyhoeddir yn Swyddfa öymru, ■Caernarfon. Drwg gennyf i mi adael o gyfrif Cofgolofn Llywelyn y syiniau hyn,—ychwan- egol o Fachynlleth, 3s.; D. G. Goodwin, lOs. 6c.; W. G. Jones, 2s. 6c. Daeth ychwaneg eto o Fachynlleth, trwy Miss Medora Lloyd,—F. Britton, 3c.; J. Evans (Llanberis), ls.; E. Lloyd, 6c.; J. Thomas, 6c.; B. Thomas, 6c.; yr oll yn 3s. 3c. A oes rhywfaint eto i ddod ? Llanc o Lannau Tetfi. Diolch. Gwelwch hanes y bleiddiaid yn y rhifyn hwn. Mae llawer o hanesion gwir cyffelyb mewn llaw. Daeth dau ddarlun ar hugain i'r gystadleuasth. Dyma'r goreuon,— 1. W. D. Davies, Pen y Graig, Pontypridd. 2. James Powell, Ty'r Capel, Pontlotyn. :; 3. Sadrach Thomas, Pen y Waen, Gwytherin. 4. Evan Davies, Pentre, Pontypridd 5. Alun Boberts, Minafon, Llannerch y Môr. i 6. Evan E. Wüliams, Llwynpia. Bydd cystadleuaeth newydd bob mi< y fiwyddyn nesaf.