Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TUDALEN Y GOLYGYDD. Gydag y bydd y rhifyn hwn yh y farclmad bydd yr %argraffwyr yn dechreu ar y tri rhifyn olaf o'r gyfrol hon, a gorffennir hwy gynted y gellir. Cyn diwedd y flwyddyn, bydd cyi'rol eleni ar werth, mewn rhwymiad tlws. Nid wyf yn sicr fod dim erioed wedi ei gynnyg yng Nghymru o'r blaen mor rad,—cyfrol o 384 tudalen, gyda thros gant a hanner o ddarluniau,—am ddeunaw ceiniog. Y mae'n amhosibl cael y cyfrolau cyntaf o Gtymjìü'b. Plant ; ac er mwyn rhoi cyfle i bawb •ewyllysio gael y gyfrol hon yn gyflawn, cadwodd y cyhoeddwr fil o gopiau o bob mis yn ol. Anfoned pob un sydd am dani yn gynnar, rhag siomedigaeth, gan fod y cyflenwad yn derfynol; ac hid ail argrefár hi. Fel llyfr gwobr, ac fel anrheg.—yn euwedig i'w hanfon i'r Amerig neu Awst- ralia,—yr ydym yn credu y bydd galw mawr am y gyfrol. Yr wyf yn awr yn meddwl llawer am y flwyddyn nesaf. Nid y w fy nghynllun- iau'n gyflawn eto,—hoffwn gael awgrymiadau,—ond dyma rai cyfresau wyf yn gynllunio. 1. Deuddeg llecyn prydferthaf Cymru, gyda deuddeg o ddarluniau. 2. Deuddeg o feddygon Cymru, eu hanes a'u darlun. 3 Deuddeg o ryfeddodau celfyddyd, —megis Drysau Paradwys, Awrlais Stras- burg, a phethau eraill sy'n dangos medr a beiddgarwch y meddwl dynol. Gyda darluniau. à. Deuddeg brwydr fwyaf y byd,—brwydrau rhyddid gollwyd neu enillwyd, gyda darluniau. 5. Siroedd Cymru, erthyglau darluniadol. Bydd llun gwynebau plant o'r gwa- hanol siroedd gyda'r darluniau. 6. Ystori ddyddorol a chyffroas, gyda darluniau, i redeg trwy rifynnau'r flwyddyn. Heblaw hyn, cedwir yr hen bethau hefyd,—y tonau, yr ysgolion, y dychmyg- ion, a phob peth sydd wrth fodd plant eleni. Yn líe'r erthyglau ar gartrefi anifeiliaid gwledydd pell, daw erthyglau ar gartrefì ein cymdogion yn y wlad hon, —megis y barcutan, y creyr, y wenci, y llwynog, y draenog, y twrch daear, y wningen, y morgrug, &c. j Gwnaf bob peth fedràf i wneyd cyfrol 1899 yn well ac yn fwy dyddorol nal chyf- rol 1898. Yr wyf yn ceisio cynhorthwy y llenorion medrus sydd eto heb ddöchreu ysgrifennu iddo, ac yn ceisio cadw yr hen gyf eillion i ddal ati. Un peth yr wyf yn sicr y rhaid ei gael i lwyddò,-r-a hynny ydyw arian. Os bydd digon o dderbynwyr, caiff y golygydd arian i'w gwario ar ddarlùídau ac ystoriau. Felly gwel pob plentyn y gall helpu. Os oes ardal, neu ysgol, neu gartref, nad yw CYMau'a Plant yn mynd ynor dyweded rìrywun caredig air areiran. % —. ^, -' -.■.•■.,■ .. ?;:>;