Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ODDIWRTH Y GOLYGYDD. OFIED y plant fod gwobr o bum punt yn cael ei chynnyg, i'w dal fel ysgoloriaeth mewn ysgol, i'r neb gasglo fwyaf o enwau derbyn- wyr newyddion i Gymru'r Plant. Gaíl y derbynwyr ddechreu gyda dechreu'r flwydd- yn hon (mae'r wyth rhifyn i'w cael), neu ar ganol y flwyddyn, neu ddechreu'r flwyddyn nesaf. Rhodder yr enwau i lyfrwerthwyr, neu anfoner hwy'n syth i'r swyddfa. An- foner ar unwaith; dyfarnir y wobr pan agorir yr ysgol gyntaf ar ol gwyliau'r haf. Dalier sylw nad oes gan y golygydd hawl i roddi caniatad i ail argraffu tonau o Gymru'r Plaxt, ond ar amod hysbyswyd yn barod. Os anfonir at y golygydd am ganiatad, rhaíd gyrru coron gyda'r cais, yr hon a dros- glwyddir ar unwaith 1 awdwr y dôn. Os at yr awduron yr anf onir, gwneled bargen â hwy. Tryfanwy, diolch, ceisir lle yn y rhifyn nesaf. Dafydd. Bydd darlun plant Lerpwl yn y rhifyn nesaf, os bydd cerfìad y dar- lun yn foddhaol. Onid Tales fuasai'r gair Saesneg goreu am Mabinogion ? W. Mae syniadau prydferth yn eich cân, ond y mae'r iaith yn anystwyth, ac nid ydych yn cadw at yr un mesur. Ychydig o farddoniaeth, fel y gwelwch, wyf yn roddi; a rhaid i'r ychydig hwnnw fod y peth goreu fedraf gael. Dylasech roddi eich cyfeiriad yn Uawn. Am Gwilym. Y mae'r Mri. Hughes yn cyhoeddi hanes Mr. Gladstone yn rhannau chwe cheiniog. Mae'n werth i chwi ei astudio. S. Bydd rhestr o'r rhai gasglodd at gronfa Llywelyn, os medraf ei gorffen mewn pryd, yn y rhifyn nesaf. Darluniau. Yr wyf yn parotoi rhifynnau y misoedd nesaf. Os oes rhywun yn meddwl anfon darluniau ysgolion neu blant i mi, gwnaed hynny ar frys. Os anfonir darluniau ysgolion, gofaler am ofyn caniatad y ffotograffydd. Ystrad Clwyd. Ie, Cymro o sir Fflint oedd sylfaenydd Owen's College, Man- ihester; rhoddodd, os wy'n cofio'n iawn, dros gan mil o bunnau i roddi cychwyn i'r hyn sy'n awr yn un o brifysgolion goreu Prydain. Cymro hefyd, ac o'r un rhan ■o Gymru, oedd eylfaenydd Prifysgol Yale, yn tJnol Daleithiau'r America. Huw. Y mae'r ystraeon " Ar Goll" yn wir bob gair. Yn y rhifyn nesaf bydd hanes plentyn o Gymro ar goll, gyda'i enw ac enwau ei rieni a'i hen gartref. Ioan Bach. Y mae'r hen forwr yn fyw eto; ac y mae ganddo amryw hanesion am y môr i'w hadrodd. J. Drwg gennyf nas gallaf ddefnyddio'r hanes. Ni hoffwn wawdio neb; ni "wna gwawdio les i undyn.