Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGWRS AM LYFRAU. ROBERT JONES E.HOS LAN. (O'r Llenor). Yn Llenor Gorffennaf ceir hanes bywyd Robert Jones Rhos lan, a'r rhan gyntaf o'i weithiau. Eobert Jones yw y mwyaf hygar, mae'n debyg, o holl athrawon gwerin Cymru. Ms gwn am Gymraeg afcwy dewisoLa phrydferth na'i Gymraeg ef ychwaith. Ei brif waith yw Drych yr Amseroedd a'i Leferydd yr Asyn ; y mae ei lythyrau, hefyd, yn ddarllenadwy a dyddorol iawn. Yn rhifynnau Gorffennaf a Hydref o'r Llenor, ceir ei waith yn gyflawn, gyda darluniau prydferth; a gwna'r ddau rifyn gyfrol dlos o waith un o'r ysgrifenwyr Cymraeg goreu yn hanes ein llen- yddiaeth. Gwyddoch i gyd am fìsolyn o'r enw Cymrtj'r Plant ; y mae müoedd o honoch wedi ei adnabod ac wedi ei hoffi. vvYr ydym yn awr ar ganol y seithfed gyfrol; y mae'r rhifyn hwn yn ddechreu yr ail ran o honi. Bydd hyn yn gyfle i chwi dreio cael derbyn- wyr newyddion. Os nad oes cymaint o erthyglau ag a addewais, y mae mwy o ddarluniau, onid oes ? Ae os hoffeeh gael addewid newydd at yr hanner blwyddyn nesaf, cymerwch hon,—Yn y rhifyn nesaf bydd ystori newydd gan Miss Winnie Parry, sef " Merch y Brenin " yn dechreu. Yr ydych yn cofìo am Miss Parry'n dda, er fod peth amser er pan ddarllenasoch ei hystori ddiweddaf, a gwn fod fy addewid yn un wrth eich bodd. Bydd yr ystori'n gyflawn yn y gyfrol hon. Bydd llawer o holi am gyfrolau cyflawn o Gpymru'r Plastt. Y mae'n amhosibl eu cael erbyn hyn. Ond eleni, yr ydym yn cadw mil o rifynnau o bob mis, fel y medrwn gynnyg mil o gyfrolau'r flwyddyn ar werth tua mis Tachwedd. Bydd yn gyfrol fawr o rhwng tri chant a hanner a phedwar cant o dudalennau; a bydd ynddi dros eant a hanner o ddarluniau. Gwerthir hi am ddeunaw ceiniog wedi ' " "- • ' ..... Os wobr. bethau Uawer o lenorion a cherddorion enwocaf Cymru. Erbyn y rhifyn nesaf, yr wyf yn gobeithio y bydd yr ymgeiswyr am yr ysgolor- iaeth wedi cwblhau eu rhestr o dderbynwyr newyddion. Y funud y dechreua unrhyw ysgol, bydd y gystadleuaeth yn cau, a'r pum punt yn cael eu dyfarnu. Drwg gennyf orfod cadw darluniau Uawer o ysgolion am rai misoedd heb eu cerfìo. Ond, cyn diwedd y flw}Tddjai, yr wyf yn hyderu yr ymddengys pob darlun sydd mewn llaw, a rhai ereill. Na anfoner ysgrifau gynhygir i Gymru'h Plant i un cyhoeddiad arall, rhag i ddau gylchgrawn ddigwydd cyhoeddi jt un dernyn. Cofìer fod pob cylchgrawa _yn mynd i ambell dý. Am adolygiadau ar lyfrau'r mis gweler Ci/mru. .-