Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMGOM AM LYFRAU. A ddylai plant ddarllen " Bardd Cwsg ?" Dylent, y mae argramad rhad i blant * newydd ei gyhoeddi. Y cyntaf ydyw o glasuron Cymru i blant. Cyhoeddir y cyfrolau hyn ofl mewn llythyren f ân, eglur. Chwe cheiniog fydd pris pob cyfrol,—gwneir hwy mor rad ag y medrir. I'r aelwyd a'r ysgol y maent. Dylid eu rhoddi yn llyfrgell fechan pob plentyn o Gymro. Beth welodd Bardd Cwsg ? Gwelodd y byd, ac angau, ac uffern,—mewn dychymyg. Darlunia rwysg y byd, a, broydd tywyûion angau, a chartref tragwyddol yr anuwioL A ddarluniodd rhywun y lleoedd hynny o'r blaen ? O do, yr oedd eu darlunio yn beth cyffredin yn amser Bardd Cwsg, rhyw ddau can mlynedd yn ol. Darluniodd Müton fro'r colledigion, yn ei Goll Gwynfa. Gwnaeth yr Ysbaenwr Quevedo yr un peth, a llawer ereill. A yw'r Bardd Cwsg yn hawdd ei ddeall ? Ydyw. Y mae ei iaith yn seml, yn gref, ac yn ddarluniadol iawn; yn debycach i iaith y werin nag yw iaith rhai pobl sy'n hoff o eiriau mawr, a brawddegau hirion tywyll. Mae lìawer o gyfeiriadau hanesyddol yn y Gweledigaethau, ond gellir anwynhau'r llyfr heb fynd i'w holrhain hwy. Esbonnir pob peth hollol angen- rheidiol yn y rhagymadrodd. Pa ddaioni geir o ddarllen Bardd Cwsg ? Ymgydnabyddu â'r arddull oreu yn yr iaith Gymraeg. Gallu cliriach i weled y byd. Esboníad ar yr adnod mai ffrwyth pechod yw marwolaeth. Casineb at bechod. A yw'n ddifyr ? Ydyw. Nis gellir ei ddarllen heb chwerthin llawer, oherwydd y mae llawer o bobl ffol yn y byd y dylid chwerthin am eu peimau. A wyddom ni am waith arall Bardd Cwsg ? Gwyddoch, am ei emyn adnabyddus, gam briodolir weithiau i Edmwnd Prys,— "Myfl yw'r adgyfodiad mawr, Myfi yw gw&wr y bywyd." A oes rhywbeth o'i eiddo'n aros ? Mae llyfr yn ei lawysgrif yn eglwys Llanfair; mae darlun o ddalen ohono yn "Cymru am y mis diweddaf. A ddaw rhywbeth newydd yn Cymku'k Plant ? Yr wyf yn cychwyn cyfres o gofiantau byrion am blant. Cofied y rhai garai'r plant anfon pethau byrion tarawiadol, a darlun os bydd un i'w gael. * Gwblbdigaethaü y Bardd Cwsg. Oan Ellis Wynne o Lasynys. Amlen, darlun o'r fan y claddwyd Bardd Cwsg. 80 tudalen. Chwe cheiniog. Caernarfon, Swyddfa Cymru.