Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGOLORIäETH YN WOBR. , YISTIYGIR ysgoloriaeth o BUM PUNT, am un flwyddyn, i'w dal yn unrhyw un o ysgolion Cymru, i'r eneth neu'r bach- gen gasglo f wyaf o enwau newyddion at Gymrtj'e, Plant am un flwyddyn. Amcan y golygydd yw eangu lled- aeniad Cymrtt'b. Plant, a rhoi cymorth i ryw eneth neu fachgen i gael ysgol. Ty bia fod y ddau amcan yn dda, ac mai gwasanaeth i Gymru yw gwneyd pob un ohonynt. Dyma'n awr dri rhifyn o Gymru'b, Plant y flwyddyn hon wedi ymddangos. Gall yr ymgeisydd am yr ysgoloriaeth fynd a hwy o gwmpas i'w dangos; ac yr wyf yn sicr mai pur anaml y gwrthodir eu derbyn gan Gymro a'u gwelo. Gall ddweyd nad y w'r pris ond ceiniog, a fod y cyhoeddiad y peth rhataf gyhoeddir yng Nghymru. Nid yw'n perthyn i un sect nac i un blaid, ond croesawir ef gan bawb. Ei unig anhawsder ydyw dangos ei hun i ddechreu ; mor gynted ag y dechreuo fynd i ardal, bydd galw cynhyddol am dano o'r ardal honno o hyd. Ceisir ei wneyd yn ddyddorol i blant,—a beth bynnag sy'n ddyddorol i blant sy'n ddyddorol i bawb. Ysgrifennir iddo gan rai o lenorion goreu Cymru,—yn Eglwyswyr, Anibynwyr, Bedyddwyr, Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, a bron bob enwad,—ond fel Cymry 'n unig yr adwaenir hwy ar ei ddalennau ef. Cymerir gofal neillduol gyda'i ddarluniau, ac y mae rhai o arlunwyr enwoeaf Cymru yn ei wasanaethu. Gwerir ei enillion i gyd i'w wneyd yn well. Ehoi addysg a difyrrwch, codi moes, boddio awydd am wybodaeth, a dangos llwybrau dedwyddwch yw ei amcan. Gall yr ymgeisydd ddweyd hefyd ei fod yn ymgeisio am wobr i helpu dwyn treuliau ei addysg. Ond dyma'r amodau. Casgler enwau newyddion, a rhodder hwy i lyfr- "werthwr, a gofynner i'r llyfrwerthwr- arwyddo danghosiad o'r nifer; neu anfoner írwy'n syth i'r swyddfa. Yr amser i gasglu,—o hyn i'r adeg y bydd yr ysgolion yn dechreu wedi gwyliau'r haf. Ond nad arhoser hyd y diwedd, rhodder yr enwau bob wythnos fel y ceir hwy. Anfonir papur pumpunt i'r hwn gasglo fwyaf, cyn i'r un ysgol agor. Mae'r* wobr yn agored hefyd i blant Oymru yn Lloegr neu'r Amerig. ẁ Gall yr ymgeisydd fod yn yr ysgol yn barod, neu'n paratoi at fynd.