Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

> YSGẄRS AM LYFRAU. yn arfon (O Waith Glasynys.) Mae llyfr Diliau'r Delyn (Hughes, Grwrecsam, dwy geiniog,) wedi ei gyhoeddi. Cynhwysa ddeuddeg o alawon prydferth a phoblogaidd at wasanaeth yr aelwyd a chyfarfodydd plant. Cynhwysa ìawer iawn o amrywiaeth mewn lle bychan ; ac y mae galw mawr am dano i fod yn llyfr tonau yng nghynulleidfaoedd gwladgarol y plant. Mae disgwyl yn arwain i ddisgwyl; disgwyliem ychwanegiad o fìloedd yng nghylchrediad Cymru'r Plant, ac ni siomwyd ni. Diolch yn fawr i garedigion y cylchgrawn am eu gair da ac am eu hymdrechion. Y mae Cymru'r Plant eto ymhell o'r hyn y dymunai y golygyftd iddo fod, ond y mae'n ceisio gwneyd pob rhifyn yn well na'r rhifyn blaenordl, ac y mae'n meddwl y daw'r llyfr bach yn gydymaith mwy dyddorol o hyd i blant aelwydydd ac ysgobon Cyrnru. Mae J. E. Southall, y cyhoeddwr gwladgarol o Gasnewydd, yn gwneyd gwas-, anaeth campus i'n hysgolion, trwy gyhoeddi cardiau adrodd (reàtation cards) mewn dull hylaw, gyda nodiadau gan athrawon profìadol, am bris isel. Anfoned athrawon ato i Dock St., Newport, Mòn. Ymysg llyfrau'r mis diweddaf dylwn enwi Gwaith Glaaynys (Hughes/Gwrecsam, llawn o ddarluniau, swllt); Cofiant Bafi Dafis Rhydcytnerau, gan y Parch. James Morris (Dolgellau, E. W. Evans, hanner coron); Owen Tanat, nofel Seisnig gan A. N. Palmer, yn darlunio bywyd Cymru (Digby, Long, & Co., Llundain, 6/-).