Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGINR8 AM LYFRAU. Y mae'r ail gyfrol fechan geiniog i blant Urdd y Delyn wedi ymddangos.* Casgliad o rai o ganeuon synüaf Islwyn ydyw. Eto mae digon o waith esbonio yn y cyfarfodydd ar y caneuon, fel ar y Diarhebion gyhoeddwyd o'u blaenau. Maent yn ddarnau meddylgar, sancteiddiol, llawn o orffwys i enaid; a dylai'r plant eu dysgu allan. GwAITH GLASYNYSt y W rhifyn Ionawr o'r Llenor. Da yw gweled argraffiad tlws o'r diwedd o brif waith barddonol un sydd wedi bod yn rhy hir o'r golwg. Y mae ugain o ddarluniau tlysion yn y llyfr. Ymysg llyfrau newydd eu cyhoeddi y mae llyfr swllt prydferth gan Anthropos, a elwir " Cadeiriau Enwog," cy- hoeddedig gan Gwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig. Ehoir •ynddo hanes cadeiriau Cymru a'r byd, o Gader Idris i gader y bardd a'r pregethwr. Llyfr arall o ddyddordeb rhyfeddol yw llyfr newydd Penar, yn cynnwys hanes y cenhadon Cymreig. Mae'r tes- tyn yn un poblogaidd, fel mae goreu'r modd; y mae y llyfr yn werthfawr ac yn ddyddorol iawn. Ceir gair pellach ar y llyfr hwn eto, ac ar ei fater pwysig. Dyma rifyn cyntaf cyfrol newydd o Gymru'r Plant,—cyfrol a'i henw'n Oriau Difyr. A wnaiff y plant gadw eu rhifynnau i'w rhwymo ? Ceisir gwneyd y deu- ddeg rhifyn yn rhai ddeil yn ddyddorol am flynyddoedd lawer, i ddifyrru ac i ddysgu plant. Y mae gan Gymru'r Plant neges bwysig, ac y mae am ei hadrodd wrth gymaint a all. Md oes ganddo neb i ddangos y llwybr iddo at dderbynwyr newyddion ond y plant sydd yn ei dderbyn yn barod. A wnewch chwi ei ddangoe i ereill,— gwelwch ei fod yn fwy eleni,—cyn y gwerthir rhifynnau Ionawr i gyd ? * Isr-WYN, pigion o'i ganeuon i'r plant. Gyda darluniau. Pria ceiuiog. Hughes a'i fab, 56, Hope Strett, Wrexham. t Gwaith Glasynys,96 tudalen, 20 darlun tlws. Hughes, Wrexham. Pris Swllt. Ger Abeb, Gwyx Geegin. (O Islwyn, i blant TJrdd y Delyn.)