Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^lgfrau. ÍD yw'r gauaf heb ei fanteision. Tra bo'r eira'n llenwi'r awyr oddiallan, ceir lle clyd wrth dân aelwyd gynnea i ddarllen neu i ganu. A diolched pob plentyn am ei gartref, ac am ei dad a'i fam, ac am ei frodyr a'i chwior- ydd. Diolchedhefydameilyfrau. Y maent hwy'n gyfeülion cywir iddo, y maent yn barod bob amser i'w ddysgu a'i ddifyrru. Y mae llawer o lyfrau dydd- orol wedi dod i'm llaw yn ddiw- eddar, gŵyr y cyhoeddwyr fod galw mawr am lyfrau at dreulio hirnos gauaf yn ddifyr. Yr wyf yn bur hyderus y bydd llyfr tonau bychan Urdd y Delyn* yn barod cyn y gwelír gwyneb y rhifyn hwn. Cynhwysa donau gan Dr. Parry; Muller; J. T. Rees, Mus. Bac.; L. J. Eoberts; Parch. J. Allen Jones, B.A. ; E. D. Lloyd; W. M. Roberts ; T. W. Roberts ; R. Roberts ; a rhai ereill. Gwelir oddiwrth yr enwau y bydd y llyfr alawon yn werth ei gaeí, ac y bydd yn gydymaith diddan. Y mae Goleufryn newydd gyhoeddi llyfr yn ei amser.t—dan yr enw " Cibroth- Hattaafah." Ystraeon ydyw, wedi eu dweyd a'u trefnu mewn dull grymus a swynol iawn. Bydd yn gaffaeliad amhrisiadwy i deuluoedd a chymdeithasau. Y mae Ben Bowen newydd gyhoeddi llyfr o'i waith,J—"üurtur y Deffro." Y mae'r darnau'n dlysion ac awenyddol, ac yn berffaith naturiol, fel y bardd ieuanc ei hun. Y mae Ben yn awr wedi gadael y pwll glo, ac yn yr ysgol. Pob llwyddiant iddo i fagu edyn ei awen, disgwylir llawer oddiwrthi. Dyma gyfrol ddestlus arall o waith bardd sydd wedi marw,—Dewi Havhesp.$ Da iawn ei gweled. Dyma un englyn i roi cymeriad i'r gwaith,— " Nefolaidd a phennaf elw—yn y byd Yw plant bach yn marw; Ni fai'r Tad yn Dduw'r cadw, Na nef yn nef hebddyn nhw." •* Diliau'r üelyn. Hughes ai fab, Wrexham. Pris dwy geiniog. t Cibeoth Hattaafah. Gan y Parch. W. K. Jones (Gole%ifryn). liyfr tlws, 92 tudalen, darluniau. Pris chwe cheiniog. Caernarfon, W. Gwenlyn Evans. \ Ddrtue y Dbffbo. Gan Ben Bowen. Amlen, darlun, 44 tudalen. Pris chwe cheiniog. Treorci, Davies ac Evana. 5 Oriau'e Awen. Gan Dewi Havhesp. Darlun, rhagymadrodd gan Alafon, 144 tudalen. Pris Swllt. 0. Evans, Coleg y Bala.