Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jhnoom nm Jöfrau. " Calon lân, diogel ei pherchen." 0 Ddiarhebion Cymru. Y mae'n ddiameu mai diffyg llenyddiaeth Cymru yn y dyddiau hyn yw llenyddiaeth i blant. Xid diffyg defnyddiau yw'r diffyg,—y mae llawer iawn o'n caneuon a'n darnau rhydd- ieithol goreu wrth fodd plant,—ond diffyg cyfleusdra i'w cael. Yr wyf yn credu fod Cymru'e Plant wedi rhoi llawer trysor o'r hen feddylwyr i genhedlaeth newydd; ac y mae gan- ddo goll sydd, ar uu ystyr, yn fantais fawr, sef peidio perthyn i blaid na sect. Gall ef ddwyn plant i gyffyrddiad â meddyliau goreu Cymru heb demtasiwn i goflo i ba enwad y perthynai y meddylwyr. Yr wyf yn credu mewn cylchgronau enwadol i blant, maent wedi gwneyd lles an- rhaethol, ac yn gwneyd lles anrhaethol; yr wyf yn credu mor gryf a hynny mewn cylchgrawn íle gall holl blant Cymru adnabod eu gilydd, heb ddim sy'n gwahanu yn y golwg,—dim ond tlysni darlun, melusder cân, grym a dyddordeb hanes, i dynnu'r plant i'r un meddwl. Y flwyddyn nesaf gwneir ymdrech egniol gan olygydd a chyhoeddwyr i wneyd Cymru'r Plant yn deilwng o'i neges, yn deilwng o'r derbyniad cynnes mae'n gael, yn deilwng o Gymru. Yr ydym wedi gwario llawer iawn o arian i gael darluniau prydferth a tharawiadol, ac i'w cerfìo yn y dull goreu. Yr ydym wedi rhoi wythnosau o lafur i gael ysgrifenwyr a chyfieithwyr goreu Cymi-u i baratoi erthyglau, i ysgrifennu hanesion, ac i chwilio am bob peth dyddorol i blant. Treiwn wneyd y cyhoeddiad wrth fodd rhai niewn oed hefyd, yn enwedig y rhai sy'n awyddus am esboniad ar bethau na ddeallant ym mywyd pob dydd. Nid oes arnom eisiau gwneyd elw at achos yn y byd,—da na drwg; yr ydym yn gwario'r cwbl ar y cyhoeddiad, gan edrych ar ei neges fel yr achos teüyngaf y gwyddom ni am dano. Erfyniwn ar ein caredigion ei ledaenu ymysg plant ac ymysg rhai tlodion hoff o ddarllen. Y mae'r "Llyfrau Bach," mi hyderaf, wedi gwneyd peth lles. Y mae'r llyfrau ceiniog,—Ranes Cymru, Holi ac Ateb ar Hanes Cymru, a Phlant y Beirdd,— wedi gwerthu, ac yn gwerthu, wrth y miloedd. A thrwyddynt daw yr oes sy'n codi i ddeall elfennau hanes eu gwlad. Y mae cyfres newydd eto wedi ei chychwyn,—Cyfres Urdd y Delyn. Llyfrau bychain destlus ceiniog fydd yn y gyfres hon,—y pethau hynny yn llenyddiaeth Cymru ddylai fod yn wastad ar daíod ac ym meddwl y diwylliedig. O dipyn i beth, cyhoeddir llyfrynnau bychain ceiniog o ddarnau anfarwol ein beirdâ a'n llenorion. Tybiaf fod detholiad hylaw o rai o bethau goreu awdwr yn well na'r traethawd goreu ar ei athrylith. Ac yr wyf am roi i blant Cymru lyfrgell fechan, rad, a'u gwna yn well am siarad, am ysgrifennu, am feddwl, ac am fyw. Felly, mi dybiaf, y mas çodi'r hen wlad. Y llyfr cyntaf yw'r Diarhebion ; a hwy, cofier, sy'n gwneyd ysgwrs hen bobl gymaint yn gliriach, gymaint yn fwy digwmpas, a chymaint yn dlysach nag ysgwrs rhai wedi eu magu ar bapurau newyddion hanner cyfìeithiedig.