Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

jftpbgsíadatt am gtftm. AFON WYSG, GER ABERHONDDU. (O WdUs.) Drain Gwynion, sef Caniadau Gwylfa. Fw cael oddiwrth y Parch. Gwylfa Eoberts, Porthdinorwic. Pris ls. lc. drwy'r post. Bydd sylw eto. Y Tadait Anirynnol. Y mae'r ail a'r trydydd rhifyn o'r gyfres ddyddorol hon yn awr ger fy mron; sef hanes David Rees, Llanelli, gan Herber Evans, a hanes Lewis Powell, Caerdydd, gan y Parch. J. Bowen Jones, B.A., Aberhonddu. Y maent yn ddau lyfr hynod ddarllenadwy; un ohonynt yn waith olaf Herber Evans. Drama Taith y Pererin. Gan Spinther. Dyma Daith y Pererin mewn dull y gall rhai o fechgyn a genethod yr Ysgolion Sabbothol ei actio, a gwneyd llyfr anfarwol Bunyan yn fwy o allu yng Nghymru nag y bu erioed. Ni raid i mi -ddweyd mai hanesydd y Bedyddwyr yw y Parch. J. Spinther James, D.D. Peth anodd iawn ei actio yw Taith y Pererin, wrth mai taith jäjyf, ac feüy rhaid newid y golygfeydd o hyd. Eto gellir pigo y golygfeydd hynotaf yn unig, äc actio y rhai hynny.