Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jtptopíadatt am 3L$fxm. Mair.—(Madonna della Seggìola Raffael, 1483—1520. (ü'r Llenor.) Y Mabinogion. Gwyr pawb niai gogoniant hen lenyddiaeth Cymry yw'r Mabinogion, y rhamantau sy'n sylfaen ac yn ddeffroad cymaint o feddwl y byd. Nid oes dim yn fwy swynol na hwy i feddwl plentyn, ac eto y maent ymheÜ o gyrraedd plant Cymru. Dyma 'r pedair mabinogi hynaf, wedi eu rhoddi mewn Cymraeg diweddar, heb newid yn nesaf peth i ddim arnynt, gan J. M. Edwards, athraw yn Ysgol Sir yr Abermaw. Cyfrol swllt ddestlus yw'r gyfrol, gyda phedwar darlun tlws gan Miss Eirian Francis. Cyfrol yn ei hamser ydyw; ac y mae'n sicr o gael gwertbiant helaeth. Hughes a'i fab, Gwrecsam, yw'r cyhoeddwyr. Wales. Newidir y cylchgrawn Seisnig hwn yn hollol yn 1897. Bydd ei bris yn llai,—tair ceiniog y mis ; bydd ei erthyglau yn fyrrach, yn fwy bywiog, ac ar bynciau'r dydd. Darlunnir bywyd Cymru yn bennaf; ond ceir erthyglau darlun- iedig ar wledydd ereill, dan y pennawd " Peeps Abroad," hefyd. Cyhoeddir gan Hughes a'i fab, Gwrecsam.