Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfestypiaflatt am gtftm. Dahlun o gartref Cymreig ydyw hwn, dan gysgod bryn serth, yng ngwlad Buallt. Es- iampí ydyw o'r darluniau dynnir gan rai o arlunwyr goreu Cymru, megis W. W. Goddard a S. M. Jones, i harddu dalennau'r Llenor. Y Llenou. Anogaf bob bachgen a geneth feddylgar i brynnu'r cylchgrawn hwn. Swllt yn y chwarter yw ei bris; felly nid yw o gyrraedd y werin,—a'r werin yn unig sydd yn noddi llenyddiaeth Cymru. Yn y rhifyn nesaf, rhifyn Gorffennaf, bydd dewis ganeuon Huw Myfyr,—na chyhoeddwyd erioed o'r blaen, y gân i Fynyddoedd Cymru yn eu mysg. Gall yr un sydd a'i fryd ar fflgyru ymddigrifo yn erthygl A. N. Palmer ar hen fesurau tir Cymru,—olion mesurau cenhedloedd lawer. Caiff y llenor drem ar ddadblygiad Uenyddiaeth gyfoethog filoegr o'r dechreu hyd y dydd hwn. Caiff y cerddor meddylgar ddifyrrwch wrth weled ymgais Jones o Bamoth i ddysgu cerddoriaeth i Ddewi Wyn. Bydd llawer o bethau gwerth eu cadw yn y rhifyn, ac amryw ddarluniau tlysion. Cyhoeddir gan Hughes & Son, Wresham.