Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

jftfljsîjgsiadau am ^itfratu Uii o bennawd ddarluniau'r Llenor. Y Llenor. Cylchgrawn chwarterol cenhedlaethol Cymru. O ran diwyg a darluniau deü hwn i'w gydmaru â chylchgronau tlysaf y byd. Mae dydd y cylch- gronau hagr, gyda'u papyr sal a'u hinc llwyd, yn darfod yng Nghymru; ac y mae'r werin diwylliedig yn hawlio, nid yn unig erthyglau gwreiddiol a meddylgar, ond argraff lân dlos a darluniau sy'n hyfrydwch i'r llygaid. Ceir hyn oll yn y Llenor. Md oes bosibl cael y gyfrol gyntaf, y mae y rhifynnau cyntaf wedi eu gwerthu bob un. Bydd llyfrau'r Llenor am 1896 yn werth i'w cael a'u cadw. Yn rhifyn lonawr ceir cipolwg ar hanes meddwl y byd yn ystod 1895 ; ac yna ceir gorffwys mewn erthygl ar Robert Owen, dryfrith o ddarluniau o ardal brydferth Abermaw. Yna daw darluniad o'r llenor Cymreig, ffug a gwir, gan un o ysgrifenwyr doniolaf Cymru. Yn yr erthygl ar "Arteithio," cymerir y darllennydd mewn erthygl ddarluniedig trwy ddaeargelloedd tywyll y gorthrymwr a'r erlidiwr. Bugeileg dlos a phryddest darawiadol,—cynrychiola y rhain yr awen Grymreig ar ei goreu. Ac ymdrech olaf Rosciusco, beth sydd mor ddyddorol i Grymro ? " Beirdd Eifionnydd" hefyd,—dyna wledd. ls. y chwarter. Wales. ITnig gylchgrawn Seisnig cenhedlaethol Cymru. Ei amcan yw dweyd hanes Cymru, cyfieithu ei llenyddiaeth, a darlunio ei bywyd i Grymry sy'n siarad Saesneg. Y mae ei ddarluniau, ei ystraeon, a'i ddefnyddiau hanesiaeth yn ddyddorol dros ben. Arian Cymru, Crynwyr Sir Drefaldwyn, Telyn Cymru, ein Harwyddion Cenhedlaethol, Dyddiadur Eben Fardd, Daniel Owen, Joseph Edwards,—dyna rai o destynau'r rhifyn nesaf. 6ch. y mis. Cyhoeddir y ddau gylchgrawn prydferth hyn yn swyddfa Cymrl'b, Plant. Y mae'r Mri. Hughes, y cyhoeddwyr, yn credu fod dyfodol disglaer i lenyddiaeth Cymru. Nid yn unig y maent wedi prynnu'r peiriannau perffeithiaf, ond y maent newydd godi swyddfeydd newyddion. Cewch weled y gwaith ardderchog a wnant yn y flwyddyn sydd i ddod. Cymru. Cyfrol ix. Mae mor ddyddorol ag erioed. Bydd Cyfrol x. wedi ei hargraffu â llythyren hollol newydd. Caernarfon. 6ch. y mis. Mae y Parch E. R. Morris newydd gyhoeddi ei bryddest dlos a thyner ar "Y Disgybl Anwyl," oedd yn aü oreu yn Eisteddfod Llanelli. Swyddfa'r Genedl, Caernarfon, 6ch.