Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jrflsbtjstadau am ^ijfrau. YN SWITZERLAND. (Esiampl o ddarluniau Cymru.) Cymru. Awst. Rhifyn cyntaf cyfrol newydd. " Ystalwm," gau Winnie Parry ; " Twm Rhos Mawn," gan ysgrifennydd newydd ; " Adgofion Wncwl Huw o Sir Benfro," &c, llawysgrif Islwyn. Chwe cheiniog y mis.gSwyddfa Cymru, Caernarfon. Straeon y Pentan. Gan Daniel Owen. Y mae gan bob ystori gynllun perffaith, ac y mae gwers nas gellir peidio ei dysgu ymhob un. Y mae darllenwyr Cymru'r Plant yn adnabod rhai o'r straeon, a chant bleser newydd eto wrth eu darllen ; y mae eraill yn newydd spon. W. W. Goddard yw'r arlunydd. Swllt. Hughes, G-wrecsam. Wales. Awst. Y mae'r cylchgrawn Saesneg hv»m,—Saesneg o iaith, ond Cymreig o fater ac ysbryd,—wedi ei dryfritho â'r darluniau prydferthaf, gau arlunwyr goreu ein gwlad. Y mae'n cynnwys ystoriau Cymreig wedi eu hys- grifennu gan do o nofelwyr a rhamantwyr y mae eu cenedl wedi ac yn cael blas ar eu meddyliau. Y Llenor. Yn y llyfr nesaf o'r Llenor bydd erthygl fanwl ar hanes cwymp I.lywelyn, oherwydd yr ymdrech wneir i godi cof-golofn i'n tywysog olaf. " Colledig " fydd teitl y wyneb-ddarlun. Y mae llyfrau'r Llenor yn addas iawn at fod yn wobrwyon ysgolion a chyfarfodydd llenyddol. " I ddeall doethineb ac addysg" yw arwyddair y cyhoeddiad.