Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ffîUWH W&ffT' Cyf. III. MEHEFIN, 1894. Ehif 30. 1 .<•* Y GOG. MOB swynol i mi ydyw ádlais y gôg, Gweld llanc yn aredig, a'r llaíl gyda'i ôg, Briallu yn gwenu, a llygaid y dydd, A'r oen bach yn chwareu mor hoenus a rhydd. Mae'r gòg yn ddirgelwch eleni i mi, Rhyw unwaith y clywais ei hadlais mwyn hi, Mor hyfryd ben boreu o'r goedwig fan acw, Y byddai yn canu mor beraidd ei chwcw. Ai tybed i'r adar godi yn ei herbyn ? A'i gyrru o'r wlad mewn gofid a dychryn. Tybiwn mai oeri wnaeth, a chael anwyd, A gadael y wlad, a ffoi am ei bywyd. Mae robin yn gyfaill ffyddlona sy'n bod, A'r fronfraith, ran hynny, ar rewynt ac od, Daw robin yn aml ar riniog y drws, Diolcha am friwsion â chaniad mor dlws. Nis gallaf íi gredu i'r robin a'r dryw, Y fwyalch a'r fronfraith, deimlo yn eu byw Ddigasedd a malais yn rhedeg drwy eu bron, At dderyn yn canu mor fwyned a llon. Aderyn bach, O tyrd yn ol, Â. chana eto ar lwyn y ddôl, Mae'th gân yn iechyd i fy mron, A phrudd-der sydd yn ffoi o hon. Eiddunaf it dynerach hin, I'th gadw rhag yr anwyd blin, Tywydd gynesa'th galon iach, Bereiddia nodau'th ganiad fach. Llansantffraid. E. Foulk Jones.