Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<)tUWU H&ftfr Cyf. III. MAWRTH, 1894. Rhif 27. DYDD GWYL DEWI SANT. fê*ENHILLION a gyfansoddwyd gan Mr. Hugh Roberts, Abergynolwyn, ac a ta» adroddwyd ganddo yng nghyJt'arfod adloniadol plaat yr Ysgol Ddyddiol uos )ygwyl Dewi Sant, 1894. I chwi, îy mhlant anwyl, tlysion, a glân, 'Rwyf am roi gair heno o gyngor ar gân. A hwn ydyw'r cyngor,—Coâwch, da blaut, Tra byddoch chwi byw, gwasanaethwch 'run Duw A'r hen Ddewi Sant. Fel cynnar friallu ar ystlys y berth, Chwi gwrddwch efallai â llawer storm gerth, Cewch loches a chysgod, yn wastad, fy mhlant, Tra byddoch chwi byw, ond caru'r un Duw A'r hen Ddewi Sant. Os cluda Rhagluniaeth chwi'n mhell i ryw baith, Arddelwch eich crefydd, eich cenedl, a'ch iaith, Dilynwch y cyngor, ym mhobman, fy mhlant, Tra byddoch chwi byw, arddelwch 'run Duw À'r hen Ddewi Sant. Na wyrwch, er ennill anrhydedd a pharch, O lwybr dyleiswydd, o'r ysgol i'r arch, Ymddygwch yn deilwng, ym mhobman, fy mhlant, Tra byddoch chwi byw, glynwch wrth Dduw Yr hen Ddewi Sant. Hwn ydyw'r cwestiwn, ofynnaf yn syn, Blwyddyn i heno, pwy welir fan hyn? Yr awrhon 'rwy'n tewi, nos da i chwi, blant, Ac 0 ! rhodded Duw ini gymorth i fyw Fel 'rhen Ddewi Sant.