Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

çfUWt Cyf. III. CHWEFEOL, 1894. Rhif 26. HEX YSGOL Y LLAN. " Nid oea un grlooh a ddichon Eu galw heddyw ynghyd." DENG nilynedd ar hugain yn ol, pan oeddwn i yn eneth fach lai na Uawer o honoeh chwi, nid oedd y dref yma ond pentref ; ac nid oedd yma ond un ysgol, sef y National School. Cedwid yr ysgol ynia gan hen wr urddasol yr olwg- arno; ond y mae yn ddrwg gennyf ddweyd nad oedd ganddo y cymeriad moesol goreu, er ei fod yn darllen y llithoedd yn yr eglwys. Clywais ddweyd ei fod wedi bod yn athraw da yn ei amser, ond yr oedd yr amser hwnnw wedi myned heibio cyn i mi fod yn ddigon hen i fyned i'r ysgol. Byddem yn myned i'r ysgol tua naw yn y boreu, neu hanner awr wedi naw ; 'doedd dim Ìlawer o bwys am fod yn brydlon, gau na ddeuai ein hathraw yno yn foreu. Byddai ei forwyn wedi cynneu tân yn y gaeaf, ac eisteddai rhai o honom wrth y tàn, tra y rhedai y Úeill ol a blaen ar hyd yr ysgol, gan wneyd ar y mwyaf o swn, er mawr flinder i'r hen wraig oedd yn byw yn y " ty dan'r ysgol.'' Pan glywem swn traedein meistr yn dod, rhùthrem i'n lleoedd ar draws ein gilydd, a gwae i'r rhai fyddai yn y llawr pan ddeuai ef i mewn. Ar ol i bawb eistedd, dywedem ein pader gyda'n gilydd, ac ar ol hynny holai ein hathraw ni yn y Catcchism. Ỳna anfonai y bechgyn a'r genethod mwyaf i ddysgu y classes lleiaf; ac eisteddai yntau wrth y tân i ddarllen ei bapur newydd ac i gymeryd snuff. Druain o honom ni y rhai lleiaf pan ddeuai ambeìl i un i'n dysgu, yn enwedig pan ddeuai genethod i'n dysgu, yr oeddyntyn greulonach o lawer na'r